Darren Thomas
Mae un o chwaraewyr gorau Cynghrair Cymru wedi dychwelyd yn ôl i dîm pêl-droed Caernarfon ar ôl cyfnod yn chwarae i glwb Aberystwyth FC.

Roedd Darren Thomas yn cael ei adnabod fel un o chwaraewyr gorau Caernarfon ac fe ddaeth i’r amlwg ar ôl sgorio gôl unigol wych y llynedd.

Yn ystod tymor diwethaf Cynghrair Cymru, fe sgoriodd 31 o goliau, ac mae pennaeth y clwb, Iwan Williams yn falch iawn o’i gael yn ôl.

“Mae hyn yn newyddion mawr i’r clwb a bydd dod â Daz yn ôl ‘adref’ yn sicr yn rhoi hwb mawr i bawb sy’n gysylltiedig â Thref Caernarfon,” meddai.

“Roeddan ni i gyd yn siomedig yn yr haf, pan wnaeth Daz roi gwybod i ni ei fod yn gadael i droi ei law at Uwch-Gynghrair Cymru gydag Aberystwyth, ond roeddwn yn parchu ei benderfyniad oherwydd ein bod ni i gyd yn gwybod ei fod yn gallu chwarae ar lefel uwch.

“Mae nawr yn dod nôl atom ni gyda’r profiad ychwanegol hwnnw, y gallwn i ond elwa ohono.”

Fe gychwynnodd ei yrfa bêl-droed gyda Llangefni cyn mynd i chwarae i Borthmadog a Chaernarfon.

Y gôl enwog

Bydd gwylwyr Sgorio yn ei gofio am y gôl a sgoriodd yn ystod gêm gwpan rhwng Caernarfon a’r Seintiau Newydd yn yr Ofal fis Rhagfyr y llynedd. Mae dros 100,000 o bobol wedi gwylio’r gôl, lle disgynnodd wal ar yr Ofal wrth i’r ffans ddathlu, ar wefan YouTube.

Mae gan Tref Caernarfon 12 o chwaraewyr lleol bellach sy’n chwarae i’r tîm cyntaf, ac maen nhw’n hyderus am y dyfodol.

Bydd gêm gyntaf Darren Thomas yn ôl gyda’r clwb ddydd Sadwrn yn erbyn Rhaeadr.