Fe fydd cefnogwyr pêl-droed Cymru’n cael y cyfle i wylio gêm gyfeillgar y tîm cenedlaethol yn erbyn yr Iseldiroedd fis nesaf yn fyw ar sianel deledu heb orfod talu am Sky Sports.

Cyhoeddodd y BBC heddiw y bydd yr ornest ar nos Wener 13 Tachwedd yn cael ei dangos yn fyw ar BBC Two Wales, gyda Jason Mohammed yn cyflwyno.

Ond dyw’r sianel heb gadarnhau eto a fydd sylwebaeth iaith Gymraeg yn cael ei chynnig ar gyfer y gêm, fydd hefyd ar gael ar Radio Wales a Radio Cymru, na chwaith os oes trafodaethau wedi bod gydag S4C.

Yn ystod y blynyddoedd diwethaf mae gemau cystadleuol a chyfeillgar Cymru i gyd wedi eu dangos ar sianeli lloeren Sky Sports.

Mae Cymru eisoes wedi sicrhau eu lle yn Ewro 2016 yn Ffrainc y flwyddyn nesaf, ac fe fydd y gêm yn erbyn yr Iseldiroedd yn gyfle i’r rheolwr Chris Coleman ddechrau ar y gwaith paratoi gyda’i dîm.