Gareth Bale
Mae Gareth Bale wedi cael ei enwi ar restr fer y Ballon d’or – am y drydedd flynedd yn olynol – ond ei anaf diweddaraf sydd wedi cyffroi’r cyfryngau ym Madrid heddiw.

Cafodd Bale ei enwi ar y rhestr fer o 23 chwaraewr fydd yn cystadlu am wobr chwaraewr gorau’r byd 2015, ochr yn ochr â mawrion y gêm fel Lionel Messi a Cristiano Ronaldo.

Ond yn hytrach na rhoi sylw i hynny heddiw mae’r wasg yn Sbaen wedi cyhuddo’r Cymro o ddangos amarch i’w glwb Real Madrid, a hynny ar ôl iddo ddioddef anaf cyhyrol arall dros y penwythnos.

Mae Bale yn debygol o fethu tair wythnos ar ôl anafu croth ei goes yng ngêm Real dros y penwythnos, ond mae’r bai wedi cael ei roi ar y ffaith ei fod wedi chwarae dwy gêm dros Gymru’r wythnos diwethaf.

‘Ei wlad cyn ei glwb’

Roedd Bale wedi bod yn dioddef o anaf i’r un cyhyr fis diwethaf, cyn gwella mewn pryd i chwarae 20 munud i Real Madrid yn erbyn Atletico Madrid ychydig ddyddiau cyn ymuno â charfan Cymru.

Fe chwaraeodd e ddwy gêm lawn i dîm Chris Coleman wrth iddyn nhw sicrhau eu lle yn Ewro 2016 cyn dychwelyd i’w glwb a chwarae hanner cyntaf eu buddugoliaeth dros Levante ar y penwythnos.

Ond mae’r anaf diweddaraf wedi cythruddo rhai yn y wasg Sbaeneg, sydd wedi cyhuddo Bale o roi ei wlad cyn ei glwb.

“Mae anaf Bale yn boen i unrhyw gefnogwr Madrid go iawn,” meddai golygydd papur chwaraeon AS Tomas Roncero.

“Pan mae’n lwc wael fe fyddwn ni wastad yn cefnogi’r chwaraewr fel eu bod nhw’n gwella mor fuan â phosib. Ond rwyt ti [Bale] wedi gwawdio Real Madrid gan dy fod ti wedi rhoi dy dîm cenedlaethol o flaen y clwb sy’n dy dalu.

“Bydd yn wladgarol, cara dy wlad, ond os ydych chi wedi cyrraedd [yr Ewros] yn barod does dim angen i ti fynd i’r parti yn erbyn Andorra a chwarae 90 munud ar ben hynny. Mae’n annerbyniol i chwaraewr Real Madrid.”

‘Perthynas dda’

Cyhuddodd eraill yn y wasg Bale o ddiffyg parch, gan gyfeirio at Cristiano Ronaldo, ei gyd-chwaraewr ym Madrid, fethodd gêm ryngwladol olaf Portiwgal ar ôl iddyn nhw sicrhau eu lle yn Ewro 2016.

Ond ar ôl gêm Cymru yn erbyn Bosnia, pan sicrhaodd y tîm eu lle yn Ffrainc y flwyddyn nesaf, dywedodd y rheolwr Chris Coleman nad oedd rheolwr Real Madrid Rafa Benitez wedi gofyn i Bale beidio â chwarae’r gêm olaf yn erbyn Andorra.

Yn hytrach, fe bwysleisiodd pa mor dda oedd ei berthynas â Real Madrid gan ddweud ei fod yn bleser delio â nhw pan oedd hi’n dod at sicrhau bod Bale ar gael i chwarae i’w wlad.

Ballon d’Or

Gareth Bale yw’r unig chwaraewr o Brydain unwaith eto sydd ar y rhestr fer o 23 ar gyfer y Ballon d’Or, sydd wedi cael ei ennill gan un ai Messi neu Ronaldo yn y saith mlynedd diwethaf.

Mae’r rhestr yn cynnwys pedwar o gyd-chwaraewyr Bale ym Madrid, a dim ond pum chwaraewr o Uwch Gynghrair Lloegr.

Rhestr fer Ballon d’Or 2015: Sergio Aguero (Ariannin/Manchester City), Gareth Bale (Cymru/Real Madrid), Karim Benzema (Ffrainc/Real Madrid), Cristiano Ronaldo (Portiwgal/Real Madrid), Kevin De Bruyne (Gwlad Belg/Manchester City), Eden Hazard (Gwlad Belg/Chelsea), Zlatan Ibrahimovic (Sweden/Paris St Germain), Andres Iniesta (Sbaen/Barcelona), Toni Kroos (Yr Almaen/Real Madrid), Robert Lewandowski (Gwlad Pwyl/Bayern Munich), Javier Mascherano (Ariannin/Barcelona), Lionel Messi (Ariannin /Barcelona), Thomas Muller (Yr Almaen/Bayern Munich), Manuel Neuer (Yr Almaen/Bayern Munich), Neymar (Brasil/Barcelona), Paul Pogba (Ffrainc/Juventus), Ivan Rakitic (Croatia/Barcelona), Arjen Robben (Yr Iseldiroedd/Bayern Munich), James Rodriguez (Colombia/Real Madrid), Alexis Sanchez (Chile/Arsenal), Luis Suarez (Wrwgwai/Barcelona), Yaya Toure (Traeth Ifori/Manchester City), Arturo Vidal (Chile/Bayern Munich)