Koldo Alvarez, rheolwr Andorra
Ni fydd Andorra  yn ceisio chwarae gêm gorfforol i geisio atal Gareth Bale a gweddill tîm Cymru, yn ôl hyfforddwr y gwrthwynebwyr.

Fe gyfaddefodd rheolwr Andorra Koldo Alvarez fod hynny’n “un ffordd” o atal chwaraewr drytaf y byd, ond na fyddai ei dîm ef yn defnyddio tactegau o’r fath yn y gêm heno.

Bydd Cymru yn croesawu Andorra i Stadiwm Dinas Caerdydd gan wybod yn barod eu bod wedi sicrhau eu lle yn Ewro 2016 yn Ffrainc y flwyddyn nesaf.

Ond fe fynnodd Alvarez bod Cymru wedi bod yn lwcus i drechu ei dîm ef ar ddechrau’r ymgyrch, gan awgrymu y gallai ymgyrch tîm Chris Coleman fod wedi mynd yn wahanol iawn petai nhw heb gipio buddugoliaeth hwyr y noson honno.

‘Dim cyfiawnder’

Cafodd Cymru eu hachub gan Gareth Bale yng ngêm agoriadol yr ymgyrch, wrth i seren Real Madrid rwydo’r gôl hwyr a enillodd y gêm iddyn nhw o 2-1 yn Andorra.

Byddai methu ag ennill yn erbyn y tîm gwanaf wedi cael ei ystyried yn gywilydd enfawr i dîm Chris Coleman, ac yn ergyd fawr ar ddechrau’r ymgyrch, ond yn ôl rheolwr Andorra dyna ddylai fod wedi digwydd.

“Fe wnawn ni geisio ail-greu’r perfformiad yna, gyda chanlyniad gwell os yn bosib,” meddai Koldo Alvarez wrth drafod yr ornest honno.

“Weithiau does dim cyfiawnder mewn pêl-droed. Yn anffodus allwn ni ddim newid y canlyniad nawr, ond roeddwn i’n teimlo ein bod ni’n haeddu mwy o’r gêm.”

‘Heb anafu neb’

Mynnodd Alvarez na fyddai ei dîm yn chwarae’n rhy gorfforol wrth iddyn nhw geisio sbwylio parti Cymru, gan gydnabod fodd bynnag y bydd ei chwaraewyr rhan-amser yn cael amser caled yn ceisio’u hatal.

“Mae hwnna’n rhywbeth sy’n pendroni pob rheolwr sy’n wynebu Gareth Bale. Mae e’n chwaraewr hynod o anodd i amddiffyn yn ei erbyn, oherwydd ei gryfder a’i sgil ar y bêl, mae e’n un o oreuon y byd,” meddai Alvarez.

“Mae hwnna’n un ffordd [ei gicio], ond dydyn ni heb anafu unrhyw un ers pum mlynedd, felly fydd hynny ddim yn digwydd. Wnawn ni ddim bod yn rhy gorfforol na’i dargedu e mewn unrhyw ffordd.”

Gwell na’r disgwyl?

Yn ffodus i Gymru ni fydd yn  rhaid iddyn nhw ddibynnu ar ddoniau Bale i’w palu nhw allan o dwll heno, er y byddai’r cefnogwyr yn siŵr o werthfawrogi gôl neu ddau gan seren y tîm i roi hwb i’w dathliadau nhw.

O dystiolaeth y gêm gyntaf doedd Cymru ddim yn edrych fel tîm fyddai’n sicrhau eu lle yn Ewro 2016 yn gyfforddus, yn ôl Alvarez – ond mynnodd ei fod wastad wedi credu y byddai ganddyn nhw obaith o gyrraedd y gemau ail gyfle.

“Gyda system y gemau ail gyfle, roedd cyfle iddyn nhw fynd drwyddo,” meddai.

“Fe allai unrhyw un o’r tri [Cymru, Gwlad Belg a Bosnia] fod wedi gorffen yn y tri safle uchaf, ond roedd y trydydd safle a’r gemau ail gyfle jyst yn rhoi cyfle i dîm ychwanegol fynd drwyddo.”