Mae Osian Roberts (chwith) a Chris Coleman wedi bod yn gwylio Tom Bradshaw (llun: CBDC)
Dyw ymosodwr ifanc Walsall Tom Bradshaw “ddim yn bell” o gael ei alw i garfan Cymru, yn ôl is-reolwr y tîm cenedlaethol Osian Roberts.

Mae’r tîm wrthi’n paratoi ar hyn o bryd ar gyfer eu dwy gêm ragbrofol olaf yn ymgyrch Ewro 2016, gyda’r disgwyl y byddan nhw’n llwyddo i sicrhau eu lle yn Ffrainc y flwyddyn nesaf.

Mae Bradshaw eisoes wedi sgorio wyth gôl i’w glwb yng Nghynghrair Un y tymor hwn, gan arwain rhai cefnogwyr i alw ar y rheolwr Chris Coleman i’w gynnwys yn y garfan.

Serch hynny dyw’r ymosodwr 23 oed ddim wedi cael ei alw i’r garfan hyd yn hyn, er nad oes gan Gymru drwch o ymosodwyr disglair i’w dewis ohonynt.

Osian Roberts yn trafod paratoadau’r wythnos â Golwg360:


Wedi gwylio Bradshaw

Yn ôl is-reolwr Cymru, mae cyn-flaenwr Aberystwyth yn un sydd wedi cael ei ystyried gan y staff hyfforddi.

“Dydi o ddim yn bell [o gael ei ddewis]. Mae Tom wedi sgorio tipyn o goliau yn barod i Walsall,” meddai Osian Roberts.

“Rydan ni wedi’i wylio fo chwe gwaith yn fyw y tymor yma felly ‘da ni’n monitro’n agos, ac mae ei gynnydd o wedi bod yn dda.”

Cyfle i Wes

Un ymosodwr ifanc sydd wedi cael ei alw i’r garfan yw Wes Burns, sydd yn 20 oed ac yn chwarae i Ddinas Bryste.

Mae e wedi creu argraff eisoes gyda’r tîm dan-21 ac yn ôl Osian Roberts mae’n haeddu ei gyfle yn y tîm cyntaf.

“Mae Wes yn un o’n chwaraewyr ni sy’n sefyll allan,” esboniodd yr is-reolwr.

“Mae’n gallu sgorio goliau, mae ganddo agwedd arbennig, ac mae’n bwysig bod gennym ni chwaraewyr ifanc sydd yn gallu dod mewn i’r garfan fel hyn.”

Dzeko neu ddim?

O ran gêm Cymru a Bosnia dydd Sadwrn, dydi rheolwr Cymru Chris Coleman ddim yn gwybod eto a fydd prif ymosodwr y gwrthwynebwyr Edin Dzeko yn ffit i chwarae.

Fe fydd Cymru’n gwneud yn siŵr felly eu bod nhw’n paratoi ar gyfer ei wynebu rhag ofn y bydd blaenwr Roma yn camu i’r cae.

“Allan ni ddim cymryd gormod o sylw o hynna mewn gwirionedd, mae’n rhaid i ni ddarparu y bydd o’n chwarae,” meddai Osian Roberts.

“Wrth reswm ‘da ni’n ymwybodol hefyd pwy [arall] all fod yn chwarae, ond mae hynny’n rhywbeth rheolaidd pan ‘da ni’n darparu ar gyfer gemau rhyngwladol.”

Stori: Iolo Cheung