Wrecsam 2–2 Tranmere                                                                  

Dwy gôl yr un oedd hi wrth i Wrecsam groesawu Tranmere dros y ffin i’r Cae Ras yn y Gynghrair Genedlaethol nos Fawrth, a hynny o flaen torf o bron i saith mil.

Er i’r Dreigiau sgorio’n gynnar fe darodd yr ymwelwyr yn ôl gan fynd ar y blaen yn gynnar wedi’r egwyl, ond cipiodd gôl hwyr Joe Quigley bwynt i’r Cymry.

Rhoddodd Robbie Evans Wrecsam ar y blaen mewn steil wedi ychydig dros chwarter awr o chwarae gydag ergyd isel gywir.

Unionodd Lois Maynard bethau cyn yr egwyl cyn i Andy Mangan o bawb roi Tranmere ar y blaen ar ddechrau’r ail hanner gyda gôl yn erbyn ei gyn glwb.

Daeth Quigley i’r cae toc wedi’r awr a chafodd gryn argraff gan unioni’r sgôr ac achub pwynt i’w dîm gyda llai na deg munud o’r gêm i fynd.

Pwynt i Wrecsam yn y diwedd felly ond nid yw hwnnw’n ddigon i’w hatal rhag llithro dri lle i’r nawfed safle yn nhabl y Gynghrair Genedlaethol.

.

Wrecsam

Tîm: Belford, Vidal, Smith, Moke (Nolan 67′), Newton, Fyfield, Evans, Carrington (Quigley 62′), York, Jennings, Vose (Jackson 63′)

Goliau: Evans 17’, Quigley 82’

Cerdyn Melyn: Vidal

.

Tranmere

Tîm: Davies, Sutton, Riley, Maynard, Hill, Hogan, Mekki, Harris, Dawson (Norwood 66′), Mangan (Jackson 83′), Margetts (Jennings 66′)

Goliau: Maynard 25’, Mangan 52’

Cerdyn Melyn: Hill

.

Torf: 6,706