Wes Burns, dde, a Tom O'Sullivan yn dathlu gol
Mae Cymru wedi cadarnhau bod ymosodwr 20 oed Dinas Bryste, Wes Burns, wedi cael ei alw i’r garfan genedlaethol yn dilyn anaf i David Cotterill.

Fe fu’n rhaid i asgellwr Birmingham dynnu nôl o’r garfan fydd yn herio Bosnia dydd Sadwrn ac Andorra dydd Mawrth nesaf ar ôl anafu llinyn y gâr.

Mae Burns yn symud i’r garfan hŷn o’r tîm dan-21, ble mae wedi chwarae’n rheolaidd dros y blynyddoedd diwethaf.

Ond roedd y cyhoeddiad yn syndod i ambell un, gyda rhai o gefnogwyr Cymru yn holi ar y cyfryngau cymdeithasol pam nad oedd ymosodwr Walsall Tom Bradshaw, sydd wedi sgorio wyth gwaith y tymor hwn, wedi cael ei ddewis.

Carfan gref

Mae Wes Burns yn un o’r chwaraewyr ifanc sydd wedi cael eu gwahodd i ymarfer â thîm cyntaf Cymru yn y gorffennol, fel rhan o’r broses o roi profiad i’r bechgyn ifanc mwyaf disglair.

Dim ond un pwynt sydd ei hangen ar Gymru o’r gemau yn erbyn Bosnia ac Andorra i fod yn saff o le ym Mhencampwriaethau Ewro 2016 yn Ffrainc y flwyddyn nesaf.

Fe allai Burns, sydd yn siarad Cymraeg ac yn gyn-ddisgybl yn Ysgol Gyfun Bro Morgannwg, ennill ei gap cyntaf dros ei wlad yn un o’r ddwy gêm honno.

Cotterill yw’r unig chwaraewr sydd wedi tynnu nôl o’r tîm hyd yn hyn gydag anaf, ac fe ddywedodd is-reolwr Cymru Osian Roberts wrth Golwg360 fod y garfan tro yma’n un o’r cryfaf ers sbel.