Gareth Bale
Fe gipiodd Gareth Bale hat-tric o wobrau yn seremoni flynyddol Cymdeithas Bêl-droed Cymru neithiwr wrth iddyn nhw gydnabod cyfraniadau chwaraewyr a hyfforddwyr ar bob lefel o’r gamp.

Cafodd seren Real Madrid ei wobrwyo â gwobr Ffefryn y Cefnogwyr yn dilyn pleidlais ar-lein, cyn casglu gwobrau hefyd am Chwaraewr y Chwaraewyr a Chwaraewr y Flwyddyn Vauxhall.

Kylie Davies gipiodd brif wobr Chwaraewr y Flwyddyn y merched, gyda Natasha Harding (Ffefryn y Cefnogwyr), Charlie Estcourt (Chwaraewr Ifanc) a Helen Ward (Chwaraewr y Chwaraewyr) hefyd yn casglu tlysau.

Cipiodd rheolwr Cymru Chris Coleman wobr y cyfryngau am arwain tîm y dynion i drothwy Ewro 2016, tra bod hyfforddwr Abertawe Alan Curtis wedi cael gwobr Gwasanaeth Hir Oes.

“Tase fe ddim am fy nghyd-chwaraewyr fydden i ddim yn casglu’r wobr yma, felly diolch mawr iddyn nhw,” meddai Gareth Bale ar ôl casglu gwobr Chwaraewr y Chwaraewyr.

“Nes i bleidleisio dros Ashley Williams. Dw i’n meddwl ei fod e wedi bod yn graig yn yr amddiffyn drwy gydol yr ymgyrch.”

Ychwanegodd prif weithredwr CBDC Jonathan Ford ei bod hi wedi bod yn “noson arbennig”.

“Rydyn ni’n gobeithio sicrhau hyd yn oed mwy o lwyddiant dros y 12 mis nesaf,” ychwanegodd Ford.

Enillwyr 25ain Gwobrau CBDC

Gwasanaeth hir oes (noddwyd gan Vauxhall): Alan Curtis

Aelod Clwb y Flwyddyn Uwch Gynghrair Cymru (noddwyd gan Princes Gate Spring Water): Siôn Edwards (CPD Dinas Bangor)

Gwobrau’r Merched

Chwaraewr Ifanc y Flwyddyn (noddwyd gan Edwards Holidays): Charlie Estcourt

Chwaraewr y Chwaraewyr y Flwyddyn (noddwyd gan S.A. Brain): Helen Ward

Ffefryn y Cefnogwyr2015 (noddwyd gan Vauxhall): Natasha Harding

Chwaraewr y Flwyddyn (noddwyd gan Vauxhall): Kylie Davies

Gwobrau’r Dynion

Chwaraewr y Flwyddyn y Cefnogwyr (noddwyd gan Vauxhall): Gareth Bale

Chwaraewr Ifanc y Flwyddyn (noddwyd gan St David’s Hotel and Spa): Tommy O’Sullivan

Dewis y Cyfryngau (noddwyd gan ATPI Sports Events): Chris Coleman

Chwaraewr y Chwaraewyr (noddwyd gan Fosters): Gareth Bale

Chwaraewr y Flwyddyn (noddwyd gan Vauxhall): Gareth Bale