Mae is-reolwr Cymru Osian Roberts wedi mynnu wrth Golwg360 fod paratoadau ar gyfer Ewro 2016 wedi cael eu rhoi i’r neilltu tan fydd y tîm yn sicrhau eu lle yn Ffrainc yn bendant.

Dim ond un pwynt sydd ei hangen ar Gymru o’u dwy gêm nesaf – i ffwrdd yn Bosnia ar 10 Hydref ac yna gartref yn erbyn Andorra tridiau yn ddiweddarach – i fod yn saff o le ym Mhencampwriaethau Ewrop y flwyddyn nesaf.

Yn ôl adroddiadau mae Cymdeithas Bêl-droed Cymru eisoes wedi llygadu lleoliad ym Montataire yng ngogledd Ffrainc fel eu gwersyll nhw os yw’r tîm yn cyrraedd yr Ewros.

Ond mae Osian Roberts wedi mynnu na fydd unrhyw fanylion yn cael eu cadarnhau nes y bydd y ddwy gêm nesaf drosodd, gyda thimau yn gorfod aros nes mis Rhagfyr beth bynnag cyn canfod ym mha ddinasoedd yn Ffrainc y byddan nhw’n chwarae.

‘Symud yn sydyn’

Awgrymodd is-reolwr Cymru fodd bynnag bod staff y tîm cenedlaethol eisoes wedi gwneud tipyn o’u gwaith cartref.

“Rydan ni ‘di gorfod cadw’r pethau yna sydd ar y gorwel allan o’n meddyliau tan ‘da ni wedi cyrraedd,” cyfaddefodd Osian Roberts.

“Munud mae hynny’n digwydd mi allwn ni drafod hynny a symud pethau’n eithaf sydyn, ond mae’n rhaid i ni wneud yn saff i gychwyn ein bod ni’n cael yna, ac wedyn mi fedrwn ni feddwl am bethau sydd ar y gorwel.

“Ar hyn o bryd dydi hyd yn oed gêm Andorra ddim yn dod i’n meddyliau ni, dim ond gêm Bosnia.”

Pod pêl-droed Golwg360 cyn gemau Bosnia ac Andorra:

Cyfle i’r to ifanc?

Mae’r rheolwr Chris Coleman eisoes wedi cyhoeddi ei garfan ar gyfer dwy gêm olaf yr ymgyrch, gan ddewis chwaraewyr profiadol sydd wedi bod o gwmpas y tîm ers sbel yn bennaf.

Mae’n golygu nad oes lle i chwaraewyr fel Jordan Williams, amddiffynnwr ifanc Lerpwl oedd yn y garfan ddiwethaf, nac ymosodwr Walsall Tom Bradshaw.

Ond mae Osian Roberts yn hyderus y daw dydd cenhedlaeth nesaf Cymru yn fuan.

“Mae Tyler Roberts, Harry Wilson – George Williams, wrth gwrs, wedi chwarae – Gethin Jones, Wes Burns, wedi bod yn ymarfer efo’r tîm cyntaf yn barod oherwydd ‘da ni eisiau sicrhau bod ‘na ddilyniant i’r grŵp yma o chwaraewyr,” meddai.

“Felly fydd y polisi yna ddim yn newid o gwbl.”

Angen gemau

Os mai’r neges i’r chwaraewyr ifanc yw bod yn amyneddgar a pharod pan fydd eu cyfle’n dod, yna rhybudd sydd i eraill bod angen iddyn nhw sicrhau nad ydyn nhw’n segura gormod gyda’u clybiau ystod y tymor cyn yr Ewros.

“Beth ‘da ni eisiau ydi bod cystadleuaeth am safleoedd a bod chwaraewyr yn gorfod bod yn chwarae a pherfformio i’w clybiau er mwyn cael mewn i’r garfan,” meddai Osian Roberts.

“Ond mae pethau’n newid yn sydyn mewn pêl-droed, mae [Wayne] Hennessey yn chwarae yn nhîm cyntaf Palace rŵan, mae ‘di cael ei le yn y tîm a gobeithio bydd o’n aros yn y tîm am gyfnod maith. Mae Joe Ledley hefyd wedi dechrau [yn ddiweddar].

“Mae hi yn bwysig bod nhw’n chwarae cymaint o gemau ac sy’n bosib oherwydd ‘da ni eisiau pawb fod yn ffit ac yn barod i chwarae.

“Mae gennym ni nifer o gemau i chwarae yn ystod tymor yma, felly mae o wastad yn help os ydyn nhw’n chwarae’n rheolaidd.”

Cyfweliad: Jamie Thomas

Stori: Iolo Cheung