Brighton 1–1 Caerdydd                                                                    

Gôl yr un a phwynt yr un oedd hi wrth i Gaerdydd ymweld â’r Amex i herio’r tîm ar frig y Bencampwriaeth, Brighton, brynhawn Sadwrn.

Rhoddodd gôl gynnar Joe Mason yr Adar Gleision ar y blaen cyn i Dale Stephens unioni pethau i’r tîm cartref.

Pum munud yn unig oedd ar y cloc pan wyrodd Mason groesiad isel Scott Malone i gefn y rhwyd.

Ond nid yw Brighton wedi colli hyd yn hyn y tymor hwn ac roeddynt yn gyfartal cyn yr egwyl diolch i foli daclus Stephens.

Y tîm cartref a gafodd y gorau o’r gêm heb os, ond wedi dweud hynny gallai Caerdydd fod wedi dwyn y pwyntiau i gyd oni bai i gynnig Sami Ameobi gael ei glirio oddi ar y llinell yn yr ail hanner.

Mae’r gêm gyfartal yn ddigon i gadw Brighton ar frig y Bencampwriaeth ond mae’r Adar Gleision yn llithro un lle i’r wythfed safle.

.

Brighton

Tîm: Stockdale, Bruno, Greer, Dunk, Bong, Rosenior, Stephens, Kayal, March, Baldock (Manu 82′), Hemed (Zamora 67′)  

Gôl: Stephens 38’

.

Caerdydd

Tîm: Moore, Fabio, Morrison, Connolly, Malone (Peltier 83′), Pilkington (Noone 54′), Dikgacoi, Whittingham, Ralls, Jones (Ameobi 63′), Mason

Gôl: Mason 5’

Cardiau Melyn: Malone 34’, Fabio 45’, Wittingham 65’, Peltier 85’

.

Torf: 26,399