Collodd Casnewydd am y pumed gwaith mewn chwe gêm wrth iddyn nhw ddioddef crasfa o 3-0 gartref yn erbyn Caerefrog y prynhawn yma.

Cipiodd Caerefrog eu buddugoliaeth gynta’r tymor hwn i sicrhau bod y Cymry’n aros ar waelod yr Ail Adran.

Rhwydodd James Berrett cyn yr hanner i roi mantais i’r ymwelwyr, ac roedd goliau yn yr ail hanner gan Reece Thompson a Vadaine Oliver wedi ychwanegu at y siom i Gasnewydd.

Bu’n rhaid i Gasnewydd chwarae’r chwarter awr olaf gyda 10 dyn wedi i Danny Holmes weld ail garden felen.

.

Casnewydd

Tîm: Day, Holmes, Hayden, Partridge, Barrow, Collins, Klukowski (Owen-Evans 63′), Byrne, Ofori-Twumasi, John-Lewis, Boden (Ansah 63′)

Cardiau Melyn: Partridge 25’, Barrow 62’, Holmes 69’, 77’, Collins 78’

Cerdyn Coch: Holmes 77’

.

Caerefrog

Tîm: Flinders, Lowe, Winfield, Ilesanmi, McCoy, Summerfield, Nolan, Berrett, Tutonda (Carson -78′), Oliver (Sinclair 74′), Thompson (Rzonca 87′)

Goliau: Berrett 38’, Thompson 55’, Oliver 59’

Cardiau Melyn: Oliver 63’, Berrett 90’

.

Torf: 2,459