Jamie Thomas sy’n dod a rhagflas o’r gêm fawr rhwng Cymru a Chyprus heno. 

Timau disgwyliedig:

Cyprus (4-2-3-1): Giorgallidis; Demtriou, Junior, Lafis, Antoniades; Economides, Nikolaou; Charalambous, Makridis, Alexandrou; Markis.

Cymru (3-4-1-2): Hennessey; Collins, Williams, Davies; Gunter, King, Ledley, Taylor; Ramsey; Bale, Robson-Kanu

Dyfarnwr: Szymon Marciniak (Pol)

 —

Ar ôl cyfres o gynadleddau i’r wasg lle bu’r her sy’n wynebu tîm Cymru ar hyn o bryd yn brif ffocws y sgyrsiau, mae’r amser wedi cyrraedd i Gymru chwarae’r gêm gyntaf allan o ddwy – ac nid oes amheuaeth y bydd Cymru’n cyrraedd rowndiau terfynol Euro2016 yn Ffrainc y flwyddyn nesaf.

Ddydd Mercher, fe deithiodd carfan Cymru i Nicosia, ddiwrnod yn union cyn y gêm yn erbyn Cyprus heno. Maent yn gwbl ymwybodol, os ydyn nhw’n ennill y gêm honno, fe fydd buddugoliaeth yn erbyn Israel yng Nghaerdydd ddydd Sul yn sicrhau lle yn rowndiau terfynol Euro 2016.

Bu capten a hyfforddwr carfan genedlaethol Cyprus, Constantinos Makrides, yn siarad ag aelodau o’r wasg yn sôn am yr her fydd Cymru’n cynnig i’w dîm.

Dim cynllun arbennig i atal Bale.

Fel dywedodd Wayne Hennessey a Ben Davies ddydd Llun, bu Gareth Bale yn chwaraewr rhyfeddol i Gymru yn ystod y gystadleuaeth hon. A does dim amheuaeth ei fod yn chwaraewr cwbl allweddol i Gymru, ond i ba raddau mae’r gwrthwynebwyr heno’n paratoi ar ei gyfer o’n benodol?

Yn ôl  Charlamos Crhistodoulou does dim cynllun penodol i rwystro Gareth Bale ar y cae gan fod y tîm cyfan yn rhy dda i beidio rhoi sylw iddynt.

“Nid yw Bale yn cynrychioli holl dim Cymru, mae Cymru yn dîm da iawn ar y cyfan. Mi wnawn ni ganolbwyntio ar y tîm cyfan. Mae gemau fel hyn yn rhoi ysgogiad pellach i’r chwaraewyr berfformio, mae’n rhaid inni ganolbwyntio, ac fe fydd ein tîm ni mor barod ag y gallan nhw fod erbyn y gêm yfory.”

Mae’r capten, Marios Antionades, yn cytuno ac yn dweud eu bod nhw wedi bod yn paratoi i wynebu tîm cyfan Cymru, ac nid Gareth Bale yn unig.

“Rydym ni’n paratoi i chwarae yn erbyn Cymru, ac nid Bale. Wrth gwrs, mae Bale yn chwaraewr da ac fe allai wneud wahaniaeth yn ystod unrhyw eiliad, ond mae Cymru’n dîm reit gryf ar y cyfan.”

Dim yn rhy gorfforol

Yn ogystal â hyn, fe ddywedodd rhai o chwaraewyr tîm Cymru eu bod yn teimlo bod Cyprus wedi rhoi perfformiad corfforol iawn iddynt ystod y gêm yng Nghaerdydd yr Hydref diwethaf.

Gwrthododd hyfforddwr Cyprus dderbyn y sylwadau hynny gan ddweud bod Cymru’n ddigon gorfforol hefyd.

“Dwi’n anghytuno ein bod wedi bod yn rhy gorfforol. Cymru oedd yn chwarae gyda deg dyn ac nid ni, nhw gafodd cerdyn coch ac nid ni. Nid ydym byth yn chwarae’n rhy gorfforol, rydym ni’n gwybod lle mae terfynau’r rheolau.”

Siaradodd hefyd am y ffaith, er bod hon yn wythnos fawr i Gymru, bod Cyprus yn barod fel tîm am gêm sy’n hynod o bwysig iddyn nhw hefyd wrth iddynt geisio ennill tir ar y timau sy’n uwch na nhw yn y grŵp.

“Mae’r chwaraewyr i gyd yn gwybod pa mor bwysig ydi’r gemau yma i Gyprus. Wrth gwrs, fe fyddan nhw’n chwarae gyda’u calonnau, ond weithiau nid yw hynny’n ddigon. Dwi’n gobeithio byddwn ni’n medru chwarae ein gorau yn y gêm yfory.”

“Mae’n gêm enfawr i ni, a’r gêm fwyaf yn y gystadleuaeth hyd yn hyn hefyd. A fedrwn ni ein curo ni yfory? Mae hynny’n dibynnu ar nifer o ffactorau. Wrth gwrs fe fydd yn gêm anodd i ni ond rydym ni am roi ein 100% iddi.”