Gareth Bale (llun: CBDC)
Jamie Thomas sy’n gohebu ar y tîm cenedlaethol i Golwg360 yn ystod wythnos gwbl allweddol i dîm Chris Coleman. Ben Davies a Wayne Hennessey sydd wedi bod yn trafod cyfraniad Gareth Bale i’r tîm cyn herio Cyprus.

Wrth i ni wynebu wythnos sydd â’r potensial i fod yr un fwyaf yn hanes pêl-droed Cymru ers blynyddoedd maith, mae’r amddiffynnwr Ben Davies, a’r golwr Wayne Hennessey wedi bod yn hael iawn â’u canmoliaeth i seren ddisgleiria’r tîm, Gareth Bale.

Ag yntau unai wedi sgorio neu chwarae rôl allweddol ym mhob un o chwe gêm ragbrofol Cymru hyd yma, mae’r disgwyliadau’n uchel i Bale gael yr un dylanwad yn y gemau sy’n weddill.

Yn ôl cefnwr Spurs, Davies, mae’r chwaraewyr yn ymwybodol iawn o bwysigrwydd Bale i’r tîm.

“I gael rhywun fel fe yn eich tîm, mae’n dod o gwmpas unwaith un eich bywyd chi a gallwn ni weld yn glir pa mor bwysig mae e’ di bod i ni”  meddai Davies.

Cyflawni’r nod

Mae’n anodd i unrhyw un sydd wedi bod yn cefnogi Cymru dros y blynyddoedd diwethaf i deimlo’n gwbl gyfforddus ar hyn o bryd, ond rhaid cyfaddef bod y tîm mewn sefyllfa ardderchog i gyrraedd rowndiau terfynol Pencampwriaeth Ewrop yn Ffrainc y flwyddyn nesaf.

Dywedodd Davies nad oes modd dianc o’r ffaith bod Bale wedi bod yn rhan enfawr o lwyddiant y tîm hyd yn hyn.

“Mae Bale wedi bod yn rhyfeddol trwy gydol yr ymgyrch, ac rydyn ni’n lwcus i gael rhywun fel fe yn ein carfan. Rydym ni’n bendant yn cydnabod maint yr effaith mae e’ di cael ar ein hymgyrch ni. Os oes rhaid i ni gydweithio i roi’r bel iddo fe sgorio’r goliau er mwyn i ni gyrraedd Ffrainc, yna mi wnawn ni wneud hynny.”

Ychwanegodd hefyd bod yr amser wedi dod i Bale gael cyfle i chwarae yn erbyn ei gyd-chwaraewyr Real Madrid mewn pencampwriaethau rhyngwladol.

“Mae chwaraewr o’i allu a safon, yn chwarae ym Madrid ble mae pob un o’i gyd chwaraewyr yn chwarae yn y pencampwriaethau rhyngwladol ‘ma dros yr haf, yn haeddu bod yn rhan o hynny ac rydym ni mewn sefyllfa wych ar y funud a gobeithio cawn ni gyflawni’r nod yna.’

Ar ôl gem Madrid dros y penwythnos, ychwanegodd Bale lun o’i hun ar Instagram yn mynd ar ei awyren breifat tua awr ar ôl y gêm, gan ddweud ei fod o’n teithio i Gymru.

Dywedodd y golwr Wayne Hennessey bod hynny’n dweud y cyfan am ymrwymiad Bale i Gymru.

“Mae Gareth Bale yn gyffrous. Pryd bynnag y byddwn ni’n cwrdd mae ‘na gyffro o’n cwmpas ni ac rydan ni i gyd eisiau mynd ymlaen i wneud yn dda a gwneud ein gwlad mor falch ag y gallwn. Mae Bale yn chwarae mor aml a gemau’n agos i’w gilydd, felly iddo fynd ar awyren mor fuan ar ôl y gêm Betis y noson o blaen i ddod draw, mae’n dweud y cyfan.”

Carfan orau

Mae’r tag o ‘Oes Aur’ wedi cael ei ddefnyddio’n rheolaidd am y criw yma o chwaraewyr Cymru, ac mae Wayne Hennessey’n cytuno mai hon ydi’r garfan orau mae iddo fod yn rhan ohono:

“Yn bendant y garfan gorau i mi ei bod yn gysylltiedig â hi, petai ond oherwydd ein hundod. Mae ganddom ni hefyd talent ifanc ffantastig – yn bendant sgwad sy’n gallu mynd i Cyprus ac ennill. Rwyf bob amser yn siarad am y dalent yn y garfan a dylem fod yn creu hanes gyda’r grŵp sydd gennym.”

“Rydym am wneud hynny drosom ein hunain, ein teuluoedd, ein gwlad. Ar ôl i ni guro Gwlad Belg gartref, rydym yn teimlo y gallwn ni fynd i unrhyw le ac yn ennill, rydym yn profi’n hunain i lawer o bobl oedd yn ein hamau.”