Mae Dwight Tiendalli wedi gadael Stadiwm Liberty wedi iddo yntau ac Abertawe gytuno i derfynu ei gytundeb.

Symudodd y cefnwr de 29 oed i’r clwb yn rhad ac am ddim yn 2012, ac mae e wedi chwarae mewn 46 o gemau, gan sgorio unwaith.

Cafodd ei ddewis i gynrychioli’r Iseldiroedd ddwywaith tra ei fod yn Abertawe.

Treuliodd y tymor diwethaf ar fenthyg yn Middlesbrough wedi iddo ddod yn drydydd dewis y tu ôl i Angel Rangel a Kyle Naughton.