Wayne Hennessey
Ar drothwy wythnos a allai fod yn un hanesyddol i dîm pêl-droed Cymru, mae Jamie Thomas yn rhoi sylw i rai o brif bynciau trafod y garfan ryngwladol dros y dyddiau nesaf. Carreg filltir arbennig i’r golwr, Wayne Hennessey sy’n cael ei sylw gyntaf…

Yng nghyhoeddiad carfan tîm pêl-droed Cymru i herio Cyprus ac Israel yr wythnos diwethaf, cafodd llwyth o bethau eu trafod. Sut fasa Cymru’n delio gyda’r disgwyliadau uwch? A fydd y rheolwr, Chris Coleman, yn arwyddo cytundeb newydd? Ac yn y blaen.

Un mater na drafodwyd mewn llawer o fanylder o gwbl oedd y gamp enfawr roedd Wayne Hennessey ar fin ei hychwanegu i’w CV. Wrth gael ei enwi yn y garfan ar gyfer y ddwy gêm i ddod, a bron yn sicr o ddechrau’r ddwy gêm rhwng y pyst i Gymru, bydd Hennessey yn ennill ei hanner canfed cap dros ei wlad.

Yng nghynhadledd y wasg y tîm ddydd Llun, cyfaddefodd Hennessey nad oedd wedi breuddwydio y gallai gyrraedd y garreg filltir arbennig yma.

“Wnes i erioed feddwl y byddwn i’n cyrraedd 50 o gapiau. Mae’n wych, yn amlwg gyda’r anaf a gefais  yn ogystal, i gyrraedd 50 yn anrhydedd ffantastig ac yn gamp wych.”

Cyrraedd cant

Nid yw’n gyfrinach bod Chris Coleman wedi bod yn ceisio ysbrydoli eu chwaraewyr i drio cymaint â phosib o gapiau ers peth amser.

Yn ystod yr ymgyrch yma’n unig, mae hogia’ fel Gareth Bale, Ashley Williams a rŵan Hennessey wedi cyrraedd 50 cap, gan ychwanegu at hogia’ fel Joe Ledley, Chris Gunter a Sam Ricketts o’r garfan bresennol sydd eisoes wedi pasio’r ffigwr yma.

Ychwanegodd Hennessey ei fod yn credu bod digon o botensial yn y garfan i nifer o chwaraewyr eraill gyrraedd 50 a hyd yn oed 100 o gapiau dros Gymru.

“Mae ‘na gymaint o chwaraewyr yn y stafell newid yma sydd yn gallu cyrraedd y marc yna. Os fydda i fyth am gyrraedd cant a phasio cyfanswm Southall byddai hynny’n ffantastig gan fod Neville yn olwr bendigedig ac yn rhywun roeddwn i’n addoli.”

Anelu at ei arwr

Er bod Hennessey wedi bod o gwmpas ers blynyddoedd bellach, dim ond 28 mlwydd oed ydy’r golwr o Fôn. Gyda 50 o gapiau i’w enw’n barod, yn ogystal â’r ffaith bod golwyr yn tueddu i aeddfedu’n hŷn a mwynhau gyrfaoedd hirach, cafodd Hennessey ei wthio ar y cwestiwn o dorri record capiau Neville Southall o 92.

Roedd Hennessey’n barod iawn i drafod cymaint o barch sydd ganddo i’r dyn  a oedd yn cael ei ystyried gan lawer fel y golwr gorau yn y byd yn ystod ei yrfa.

“Y ffaith ei fod yn Gymro, dyna le ddechreuodd fy edmygaeth o Neville Southall, ac roeddwn yn gefnogwr Everton fel plentyn. Ei weld pan oeddwn yn tyfu i fyny, roeddwn yn meddwl mai fo oedd y gorau yn y byd – yn well na Schmeichel i mi.

“Popeth amdano – gallu, ystwythder, cicio, dal croesiadau, rheoli’r cwrt – os fydda’i fyth yn dod yn agos at record Neville fe fydd yn anrhydedd llwyr. Mae o’n arwr enfawr i Gymru, a bydd yn cymryd ymdrech enfawr i guro 92 o gapiau fel record.”

Ychwanegodd Hennessey bod Southall wedi bod yn ddylanwad allweddol iddo yn y gorffennol gyda’i adborth a chyngor.

“Dwi ‘n siarad ag o dros y ffôn weithiau, fo ydy fy arwr, dyn gwych ac mae’r hyn mae o wedi’i gyflawni mewn pêl-droed a’r wybodaeth y mae’n cynnig i mi o’r radd flaenaf. Ro’n i’n cael llawer o negeseuon gan bobl pan oeddwn allan gyda fy anaf, ond roedd Neville yn arbennig o dda gyda fi.”