Abertawe’n teithio i’r gogledd ddwyrain

Gobeithio parhau â’u dechrau da i’r tymor


Ki Sung-Yeung, wedi anafu llinyn y gâr
Fe fydd Abertawe yn gobeithio parhau â’u dechrau da i’r tymor wrth iddyn nhw deithio i ogledd ddwyrain Lloegr i wynebu Sunderland, sydd wedi colli eu dwy gêm gyntaf, prynhawn dydd Sadwrn.

Ar ôl dechrau eu tymor gyda gêm gyfartal i ffwrdd yn erbyn Chelsea fe gipiodd yr Elyrch fuddugoliaeth yn eu gêm gartref gyntaf wythnos diwethaf wrth drechu Newcastle 2-0.

Does gan dîm Garry Monk ddim pryderon anafiadau newydd wrth iddyn nhw baratoi i wynebu Sunderland, gyda phawb yn y garfan yn ffit heblaw am Ki Sung-Yeung, sydd wedi bod yn cael trafferthion â llinyn y gâr.

Fe fyddan nhw’n hyderus o ddychwelyd gyda thri phwynt hefyd gan fod eu gwrthwynebwyr yn un o ddau dîm yn unig sydd wedi colli eu dwy gêm agoriadol o’r tymor.

Mae’r ymosodwyr Andre Ayew a Bafetimbi Gomis eisoes wedi sgorio dwy gôl yr un i Abertawe y tymor hwn, ac fe fydd cefnogwyr yr Elyrch yn edrych tuag at y ddau yna unwaith eto am goliau yn erbyn y Black Cats.