Fydd ymosodwr a phrif sgoriwr Israel yn eu hymgyrch Ewro 2016 ddim yn ffit i wynebu Cymru pan fydd y ddau dîm yn herio’i gilydd yng Nghaerdydd ar Fedi 6.

Mae Omar Demari wedi sgorio pum gôl i Israel yn y grŵp rhagbrofol hyd yn hyn, ond oherwydd anaf i’w droed ni fydd blaenwr Red Bull Salzburg ar gael pan fydd ei dîm yn chwarae yn erbyn Cymru fis nesaf.

Mae pêl-droedwyr Cymru’n teithio i Cyprus yng ngêm nesaf yr ymgyrch ar 3 Medi cyn herio Israel tridiau yn ddiweddarach, ac fe fyddai dwy fuddugoliaeth yn y gemau hynny yn sicrhau lle i dîm Chris Coleman yn Ewro 2016 y flwyddyn nesaf.

Safle cryf

Ar hyn o bryd mae Cymru ar frig Grŵp B, dau bwynt o flaen Gwlad Belg a phump o flaen Israel a Cyprus, gyda phedair gêm yn weddill o ymgyrch ble dydyn nhw dal heb golli gêm.

Mae’r crysau cochion felly mewn safle cryf iawn wrth iddyn nhw geisio cyrraedd Pencampwriaethau Ewrop yn Ffrainc haf nesaf, eu twrnament rhyngwladol fawr gyntaf ers 1958.

Bydd rheolwr y tîm Chris Coleman yn dewis ei garfan ar gyfer y gemau yn erbyn Cyprus ac Israel wythnos nesaf, ond mae amheuon ar hyn o bryd dros ffitrwydd Joe Allen, sydd wedi’i wahardd o’r gêm gyntaf beth bynnag.

Gan fod dau dîm uchaf pob grŵp yn sicrhau eu lle yn yr Ewros dim ond ennill eu dwy gêm nesaf sydd yn rhaid i Gymru wneud.

Hyd yn oed os na lwyddan nhw i gipio chwe phwynt yn erbyn Cyprus ac Israel, fe allan nhw dal sicrhau eu lle yn Ffrainc gyda chanlyniadau yn erbyn Bosnia ac Andorra ym mis Hydref.