Mae’n bosib y bydd cefnogwyr clwb pêl-droed Y Bala yn methu â chyrraedd gêm heno – a hynny oherwydd bod damwain wedi cau traffordd yng ngogledd Lloegr.

Heno am 7.30yh bydd Y Bala yn chwarae gêm gyfeillgar yn erbyn Clwb Pêl Droed Warrington. Ond, mae traffordd yr M56 wedi’i chau, a phobol yn cael eu gwahardd rhag mynd o fewn 1.5km i dancer nwy sydd ar dân ac yn dal i fflamio ar hyn o bryd.

Dywedodd CPD Y Bala wrth drydar ar y we: “Mae’r M56 wedi cau oherwydd bod tancer ar dân. Mae angen i gefnogwyr darganfod ffyrdd eraill o deithio i Warrington heno.”