'I'm a Bale-iever' - un o slogannau crysau-t Shwl Di Mwl
Yn ogystal â bod yn lle am gerddoriaeth a barddoni, siopa a chwrdd â hen ffrindiau, mae’r Eisteddfod yn le ble cewch chi ddigon o gystadlaethau’n cael eu cynnal.

Ac mae gan Golwg360 gystadleuaeth arbennig i chi yn ystod y brifwyl eleni hefyd – cyfle i chi ennill crys-t Shwl Di Mwl gyda’ch slogan eich hun arno!

Y cyfan sydd yn rhaid i chi ei wneud yw meddwl am slogan sydd yn ymwneud â phêl-droed Cymru, a’i anfon draw i ni.

Ar ddiwedd yr wythnos mi fydd Golwg360 a Shwl Di Mwl yn dewis un enillydd lwcus fydd yn derbyn crys-t am ddim gyda’r slogan wnaethon nhw ei greu.

Felly os ydych chi ar faes yr Eisteddfod ym Meifod, dewch draw i stondin Golwg a chynnig eich slogannau!  Gallwch hefyd anfon eich cynigion atom ni ar Twitter (@golwg360) gan ddefnyddio’r hashnod #SloganPeldroed, neu ar ein tudalen Facebook.