Ashley Williams
Fydd Ashley Williams ddim yn gadael Abertawe dros yr haf wrth iddo ganolbwyntio ar y tymor newydd gyda’i glwb ac ymgyrch Ewro 2016 Cymru.

Dyna oedd neges rheolwr yr Elyrch Garry Monk wrth iddo drafod dyfodol yr amddiffynnwr bore ‘ma ar orsaf radio TalkSport.

Mae capten Abertawe wedi bod yn y tudalennau chwaraeon eto’r wythnos hon ar ôl sôn bod Crystal Palace wedi gwneud cynnig o £10m amdano, gydag Everton hefyd yn dangos diddordeb.

Ond yn ôl ei reolwr does gan Williams ddim bwriad symud eleni, gan fod blwyddyn fawr o’i flaen gyda’i glwb a’i wlad.

Ewro 2016

Yn ogystal â’r her o geisio sicrhau bod Abertawe yn gorffen yn hanner uchaf y tabl eto eleni, dywedodd Garry Monk fod ymgyrch Cymru i gyrraedd Ewro 2016 yn golygu bod yr amddiffynnwr yn hapus ei fyd ar hyn o bryd.

“Bydd Ash yma, bydd e yma yn Abertawe,” meddai Monk heddiw.

“Mae gen i berthynas dda gydag e, fe yw’n capten ni ac yn amlwg nes i chwarae gyda fe am sawl blwyddyn hefyd.

“Am y chwech neu saith mlynedd diwethaf mae sôn wedi bod dros yr haf am ryw dîm neu’i gilydd, boed hynny’n ddiddordeb gwirioneddol neu rywbeth sydd yn cael ei yrru gan y papurau ac asiantau, dw i ddim yn gwybod.

“Ond mae Ash yn ymroddedig i’r clwb, fe yw’n capten ni ac fe yw capten Cymru hefyd, mae’n flwyddyn fawr iddo fe gyda gobaith o gyrraedd twrnament rhyngwladol gyda’i wlad.

“Dw i ddim yn meddwl y bydd e’n awyddus i wneud unrhyw beth sydd yn ei anesmwytho, dw i’n meddwl bydd e eisoes rhoi’r cyfle gorau i’w hun i lwyddo gyda Chymru a chael tymor da gydag Abertawe hefyd.”