James Chester
Mae West Bromwich Albion wedi cwblhau trosglwyddiad James Chester o Hull City am ffi o ryw £8m.

Roedd amddiffynnwr Cymru yn awyddus i barhau i chwarae yn Uwch Gynghrair Lloegr y tymor nesaf, a hynny ar ôl i Hull ddisgyn i’r Bencampwriaeth ym mis Mai.

Ac yn ôl rheolwr West Brom, y Cymro Tony Pulis, roedd geirda gan staff hyfforddi Cymru’n rhan o’r rheswm pam benderfynodd arwyddo Chester.

Mae’r chwaraewr 26 oed wedi arwyddo cytundeb gwerth pedair blynedd gyda’r Baggies, ac fe fydd yn ymarfer â’r tîm am y tro cyntaf heddiw.

Serennu i Gymru

Dim ond llynedd y cyhoeddodd James Chester, sydd â mam yn dod o’r Rhyl, ei fod yn awyddus i chwarae pêl-droed rhyngwladol dros Gymru, ar ôl i reolwr y tîm Chris Coleman wneud ymholiadau.

Ond ers hynny mae wedi ennill chwe chap a dod yn dipyn o ffefryn ymysg y cefnogwyr wrth i Gymru gael dechrau gwych i’w hymgyrch ragbrofol Ewro 2016.

Dim ond dwy gôl mae’r tîm wedi’i hildio mewn chwe gêm gystadleuol yn yr ymgyrch hyd yn hyn, gyda Chester yn chwarae pump o’r gemau hynny.

Ac mae capten Cymru Ashley Williams wedi canmol y bartneriaeth sydd yn datblygu yng nghanol yr amddiffyn rhyngddo ef a Chester, sydd hefyd wedi chwarae fel cefnwr dde a chwith ambell waith i’w glwb.

‘Clod mawr’

Dechreuodd James Chester ei yrfa gyda Manchester United, ond ar ôl dim ond un ymddangosiad i’r clwb a chyfnodau eraill ar fenthyg fe symudodd i Hull yn 2011.

Ers hynny mae wedi datblygu i fod yn amddiffynnwr o safon, gan chwarae 171 o weithiau dros y clwb wrth iddyn nhw godi o’r Bencampwriaeth i’r Uwch Gynghrair.

“Fe wnaeth James yn dda iawn i Hull City. Fe ges i sgwrs gydag e ac mae e’n fath o chwaraewr dw i’n hoff ohono,” meddai Tony Pulis wrth wefan y clwb.

“Mae e’n gymeriad cryf, amddiffynnwr da, traed da ganddo ac mae ganddo stamp Manchester United drosto, jyst fel Ryan Shawcross [amddiffynnwr Stoke] a Darren Fletcher [chwaraewr canol cae West Brom].

“Maen nhw’n fois gwych a dw i’n clywed bod James hefyd. O’r bobl nes i siarad â nhw, fel Steve Bruce [rheolwr Hull] a phobl o garfan Cymru … maen nhw’n ei ganmol e’n fawr.”