Stadiwm y Mileniwm
Mae’n bryd ystyried a ddylai tîm pêl-droed Cymru ddychwelyd i Stadiwm y Mileniwm, yn ôl Iolo Cheung – ond nid ar draul eu llwyddiant

Mae pêl-droedwyr a chefnogwyr Cymru bellach yn gwybod pwy fyddan nhw’n ei wynebu yn rowndiau rhagbrofol Cwpan y Byd 2018, ar ôl i’r grwpiau gael eu dewis dros y penwythnos.

Nid dyna sydd yn hoelio prif sylw rheolwr y tîm cenedlaethol ar hyn o bryd, wrth gwrs, gyda Chris Coleman yn benderfynol mai’r gêm nesaf yn ymgyrch Ewro 2016 draw yn Cyprus yw’r peth pwysicaf ar ei feddwl.

Ond gyda’r cynnwrf cynyddol ynglŷn â gobeithion Cymru o gyrraedd yr Ewros yn Ffrainc y flwyddyn nesaf, mae’r drafodaeth ynglŷn â dychwelyd i Stadiwm y Mileniwm i chwarae gemau cartref hefyd wedi ailgodi.

Ar hyn o bryd mae’r tîm yn chwarae eu holl gemau cartref yn Stadiwm Dinas Caerdydd, gyda’r chwaraewyr yn dweud ar sawl achlysur eu bod yn gyfforddus yno a Coleman yn ategu hynny unwaith eto’r wythnos hon.

Ond mae prif weithredwr y Gymdeithas Bêl-droed, Jonathan Ford, wedi awgrymu y byddai’n awyddus dychwelyd i stadiwm fwyaf Cymru yn y dyfodol, o bosib mor fuan ag eleni.

Ac efallai ei bod hi bellach yn bryd ystyried mynd a’r pêl-droedwyr yn ôl i’r Mileniwm – er bod hynny’n debygol o godi gwrychyn rhai cefnogwyr.

Torfeydd yn crebachu

Mae’r dadleuon yn erbyn gadael Stadiwm Dinas Caerdydd a symud yn ôl i Stadiwm y Mileniwm yn rai cadarn, rhaid dweud.

Rydyn ni i gyd yn cofio cyfnod Mark Hughes wrth y llyw ar ddechrau’r 2000au, wrth i ni drechu’r Eidal o flaen 72,000 a chael mwy o gefnogwyr i’n gwylio ni nag unrhyw dîm cenedlaethol arall yn Ewrop.

Ond mae llawer (wel, dim cymaint o bosib!) hefyd yn cofio’r dyddiau llwm, pan nad oedd y tîm yn gwneud cystal, gyda’r stadiwm wedyn yn llai na hanner llawn, hyd yn oed chwarter llawn, ar sawl achlysur, a phryderon hefyd am gyflwr y cae.

Fe wnaeth CBDC y penderfyniad synhwyrol bryd hynny i symud i Stadiwm Dinas Caerdydd a Stadiwm Liberty yn Abertawe, yn y gobaith o greu awyrgylch well mewn stadiwm lai.


Y dorf yn Stadiwm Dinas Caerdydd wrth i Gymru herio Gwlad Belg ym mis Mehefin
Ond fe welsom ni, crebachu fwy fyth wnaeth y torfeydd, gyda diddordeb yn y tîm cenedlaethol yn pylu a gemau canol wythnos ddim yn helpu cefnogwyr fyddai’n gorfod teithio.

Mae’r dyddiau da wedi dychwelyd o’r diwedd, fodd bynnag, a hynny wrth gwrs wedi golygu bod y torfeydd yn heidio nôl ac yn llenwi’r stadiwm.

Gyda phob eisteddle yn orlawn, awyrgylch wych fel y gwelsom ni’n ddiweddar, y chwaraewyr a’r cefnogwyr yn mwynhau, a llwyddiant ar y cae, pam newid hynny felly?

Dychwelyd

I ddechrau, fe fyddai dychwelyd i Stadiwm y Mileniwm yn gyfle i lawer mwy o gefnogwyr wylio’r tîm cenedlaethol, gyda lle i 74,500 o’i gymharu â’r 33,000 yn Stadiwm Dinas Caerdydd.

Gan fod gemau Cymru yn cael eu dangos ar Sky Sports yn unig ar hyn o bryd (rhywbeth arall sydd angen newid) dyw llawer o gefnogwyr ddim yn cael y cyfle i wylio’u sêr nhw’n chwarae.

Hyd yn oed os ydych chi’n gwylio ar y teledu, does dim yn cymharu i’r cefnogwr ifanc â’r wefr o weld y tîm yn chwarae’n fyw am y tro cyntaf, ac fe allai dychwelyd i Stadiwm y Mileniwm helpu i feithrin cenhedlaeth newydd o ffans.

Dw i’n dweud hyn, gyda llaw, fel rhywun wyliodd Cymru am y tro cyntaf mewn gêm gyfeillgar yn erbyn yr Ariannin yn Stadiwm y Mileniwm yn 2002 yn hogyn ifanc, ac sydd wedi dilyn helyntion y tîm byth ers hynny.

Mae’r ochr ariannol hefyd yn dynfa i’r Gymdeithas Bêl-droed wrth gwrs, fyddai’n gweld cyfle i werthu rhagor o docynnau.

Byddai hefyd yn hwb i statws pêl-droed Cymru, o gael eu gweld yn chwarae o flaen torf enfawr a chroch – o wylio’r gemau rygbi, mae’n amlwg bod modd creu awyrgylch drydanol yno ar adegau.

Ffocws ar y tîm


A fyddai'r tîm yr un mor llwyddiannus yn Stadiwm y Mileniwm ac y bydden nhw yn Stadiwm Dinas Caerdydd?
Yn y bôn, fodd bynnag, llwyddiant y tîm sydd yn bwysig – rydan ni wedi gweld yn y gorffennol na ddaw’r cefnogwyr o gwbl oni bai fod y chwaraewyr yn gwneud yn dda.

Byddai cyrraedd twrnamentau rhyngwladol hefyd werth llawer mwy yn ariannol i CBDC na defnyddio Stadiwm y Mileniwm, heb sôn am yr holl fri a balchder fyddai’n deillio o hynny.

Petai modd ail-greu awyrgylch drydanol y gêm yna yn erbyn Gwlad Belg yn Stadiwm y Mileniwm yna gwych, ond fe fyddai hynny ond yn bosib petai’r lle yn llawn.

Fe fyddai Stadiwm y Mileniwm hefyd yn anghyfarwydd i lawer o’r chwaraewyr, gan gael gwared o bosib ar rywfaint o’r fantais mae tîm yn ei gael o chwarae gartref.

Dw i ddim yn gweld problem gyda mynd ag ambell gêm gyfeillgar yno dros y misoedd nesaf, un ai ym mis Tachwedd neu fel gemau paratoadol ar gyfer yr Ewros (croesi bysedd).

Wedi’r cyfan, fe fyddai Cymru’n chwarae mewn meysydd mawr anghyfarwydd petai nhw’n cyrraedd Ffrainc, felly beth am ddod i arfer â hynny yn nes at adref!

Byddai hynny’n gyfle i brofi’r dyfroedd a gweld sut awyrgylch fyddai yn y stadiwm, a fyddai’r chwaraewyr yn gyfforddus yno, faint o docynnau fyddai’n cael eu gwerthu.

Ond y gwir ydi fod Stadiwm Dinas Caerdydd wedi datblygu i fod yn gadarnle yn yr ymgyrch Ewro 2016 yma – fel dywedodd Chris Coleman, lle y mae gwrthwynebwyr yn ofni dod iddi.

Dyna’r math o le sydd ei angen ar gyfer ymgyrch ragbrofol Cwpan y Byd 2018 – ac felly am y tro dyna ble dylai gemau pwysicaf y tîm cenedlaethol barhau i gael eu chwarae.