Mae gwleidyddion yng Ngweriniaeth Iwerddon wedi penderfynu peidio ymyrryd mewn ffrae tros daliad gan FIFA i gymdeithas bêl-droed y wlad yn dilyn gêm ragbrofol ar gyfer Cwpan y Byd yn 2009.

Llawiodd Thierry Henry y bêl ym muddugoliaeth Ffrainc dros Weriniaeth Iwerddon mewn gêm ail gyfle cyn i William Gallas sgorio gôl, oedd yn golygu nad oedd Gweriniaeth Iwerddon wedi cyrraedd Cwpan y Byd yn Ne Affrica yn 2010.

Roedd disgwyl i wleidyddion holi pennaeth Cymdeithas Bêl-droed Gweriniaeth Iwerddon, John Delaney, ar ôl iddo ddatgelu’r wythnos diwethaf fod cyn-lywydd FIFA, Sepp Blatter wedi trefnu taliad iddyn nhw fel iawndal.

Cafodd y taliad ei drin fel benthyciad, a’i ddefnyddio er mwyn adeiladu Stadiwm Aviva ar hen safle Heol Lansdowne.

Dydy John Delaney ddim wedi cael ei holi’n ffurfiol ers dateglu’r taliad, ond dywedodd yr wythnos diwethaf fod yr iawndal wedi cael ei roi er mwyn atal achos llys.

Roedd disgwyl i’r arian gael ei ad-dalu pe bai Gweriniaeth Iwerddon wedi cyrraedd Cwpan y Byd yn 2014.

Dywedodd llefarydd ar ran llywodraeth Gweriniaeth Iwerddon na fyddai gwleidyddion yn holi Delaney wedi’r cyfan.