Osian Roberts
Fe fydd carfan Cymru yn elwa mwy o fod wedi cael wythnos lawn o ymarfer na phetai nhw wedi chwarae gêm gyfeillgar, yn ôl eu hyfforddwr Osian Roberts.

Bydd y Cymry’n herio Gwlad Belg nos Wener mewn gornest fawr ar frig eu grŵp rhagbrofol wrth i’r ddau dîm frwydro i gyrraedd Ewro 2016 y flwyddyn nesaf.

Nos Sul fe fu’r Belgiaid yn paratoi ar gyfer herio Cymru wrth deithio i Ffrainc am gêm gyfeillgar, gan ennill 4-3.

Ond yn lle cynnal gêm gyfeillgar yr wythnos diwethaf fe benderfynodd Cymru ganolbwyntio ar eu hymarferion a gwella eu ffitrwydd.

Wedi cyrraedd y ‘lefel angenrheidiol’

Yn ôl Osian Roberts, mae hynny’n golygu bod tîm Cymru wedi gallu sicrhau eu bod nhw yn y cyflwr corfforol gorau posib i wynebu Gwlad Belg ddydd Gwener.

“Mae’n chwaraewyr  heb chwarae ers pedair i bum wythnos, felly mae’n bwysig cael pawb i’r un lefel ffitrwydd ac i’r lefel angenrheidiol,” meddai’r hyfforddwr sydd yn rhan o staff cynorthwyol y rheolwr Chris Coleman.

“Gan fod chwaraewyr heb chwarae ers sbel, roedd hi’n bwysig i ni gael wythnos lawn, a bod ‘na ddim gêm yn ei ganol oedd yn mynd i dynnu ffwrdd o’r gwaith corfforol roedd angen ei wneud.

“Pan mae gen ti gêm yn dy wythnos ti’n gweithio at y gêm, ac wedyn dau ddiwrnod o weithio i gael pawb dros y gêm.”

Gêm ymarfer

Yr wythnos diwethaf, fodd bynnag, fe gynhaliodd Cymru gêm ymarfer y tu ôl i ddrysau caeedig yn Stadiwm Dinas Caerdydd rhwng y garfan.

Fe fanteisiodd Chris Coleman ar y cyfle hwnnw i weithio ar dactegau ar gyfer y gêm yn erbyn Gwlad Belg, gydag amddiffynwyr Cymru yn ymarfer amddiffyn yn erbyn Gareth Bale fel paratoad ar gyfer wynebu Eden Hazard o Wlad Belg.

Ac roedd hynny’n opsiwn mwy saff na chwarae gêm gystadleuol ble byddai risg o gael anafiadau, yn ôl Osian Roberts.

“Roedd gennym ni ddyfarnwr a dau lumanwr, bob dim wedi cael ei wneud yn union fel gêm, y warm-ups a bob dim,” esboniodd yr hyfforddwr.

“Ond o ran sicrhau ein bod ni ddim yn cael anafiadau, roedden ni’n medru rheoli hynny i ryw raddau.”

Llwyddiant y cwrs hyfforddi

Cyn i garfan Cymru gyfarfod yr wythnos diwethaf, bu Cymdeithas Bêl-droed Cymru yn cynnal cynhadledd ar gyfer hyfforddwyr.

Roedd Osian Roberts yn ganolog yn nhrefniadau’r gynhadledd, oedd yn cynnwys sgyrsiau gyda chyn-chwaraewyr a darpar-hyfforddwyr adnabyddus fel Patrick Vieira, Thierry Henry a Craig Bellamy.

Ac mae’r hyfforddwr yn obeithiol y bydd llwyddiant y penwythnos yn annog rhagor o hyfforddwyr ar bob lefel o’r gêm i feithrin eu sgiliau yng Nghymru.

“Mi oedd hi’n benwythnos llwyddiannus dros ben, mi aeth y darpariaethau yn dda, ac yn sicr oherwydd proffil y bobl oedd gennym ni yn y gynhadledd ac yn cymryd rhan … mae hynny’n mynd i godi proffil dau beth, sef ein Cynllun Datblygu Hyfforddwyr ni, a’r Gymdeithas Bêl-droed ei hun,” meddai Osian Roberts.

“Felly roedden ni’n hapus iawn efo sut aeth pethau, hon oedd y gynhadledd fwyaf rydan ni wedi’i gael, a’r orau o ran cael cymaint o bobl o’r safon uchaf posib.

“Ac mae’n bwysig i ni fel Cymdeithas ein bod ni’n datblygu hyfforddwyr ar bob lefel o’r gêm, nid jyst yr hyfforddwyr elit. Yn ddiweddar rydan ni wedi ailstrwythuro’r adran fel bod mwy o bwyslais ar hyfforddi hyfforddwyr ar lawr gwlad.”