Mae cadeirydd Cymdeithas Bêl-droed Lloegr, Greg Dyke wedi dweud y byddai’n rhaid i nifer o wledydd ystyried boicot yn erbyn Fifa cyn i Loegr ystyried gweithredu yn yr un modd.

Dywedodd y byddai’n “chwerthinllyd” pe bai Lloegr yn gweithredu ar eu pen eu hunain.

Daw sylwadau Dyke wedi i Ddug Caergrawnt apelio ar gorff rheoleiddio Fifa i “ddangos y gall gynrychioli buddiannau chwarae teg a rhoi’r gamp yn gyntaf”.

Dydy Uefa ddim wedi gwrthod y posibilrwydd o ofyn i wledydd Ewrop gynnal boicot pe na bai’r llywydd Sepp Blatter, gafodd ei ail-ethol yr wythnos diwethaf, yn camu o’r neilltu.

Dywedodd Greg Dyke wrth raglen Andrew Marr y BBC: “Mae rhoi pwysau ar Sepp Blatter bron yn amhosib.

“Ond mae rhoi pwysau ar wledydd eraill sy’n chwarae pêl-droed a rhoi pwysau ar noddwyr yn syniad da, dw i’n meddwl.

“Byddai’n chwerthinllyd ceisio’i wneud ar eich pen eich hun. Y cyfan fydden ni’n ei wneud yw tynnu allan o Gwpan y Byd a byddai pawb yn dweud ’da iawn’ ac yn anghofio amdanon ni.”

Ychwanegodd nad yw’n credu y bydd Sepp Blatter yn para pedair blynedd arall yn ei swydd.

Mae disgwyl i swyddogion Uefa gwrdd yr wythnos nesaf i drafod sut i ymateb i’r sgandal sydd wedi gweld nifer o swyddogion blaenllaw Fifa yn cael eu harestio ar amheuaeth o dwyll ariannol.