Cefnogwyr Cymru
Dim ond 36% o docynnau ar gyfer gemau Ewro 2016 y flwyddyn nesaf fydd yn cael eu dosbarthu i gefnogwyr y gwledydd fydd yn cystadlu yn y twrnament.

Yn ôl mudiad cefnogwyr FSF Cymru, sydd wedi cael trafodaethau cychwynnol â Chymdeithas Bêl-droed Cymru am y trefniadau, byddai’r ddau dîm yn cael 18% o docynnau ar gyfer pob gêm.

Bydd y gweddill yn cael eu rhannu rhwng arwerthiant cyffredinol a thocynnau ar gyfer y wasg, noddwyr a UEFA, gyda’r gemau yn cael eu chwarae ar draws Ffrainc yr haf nesaf.

Mae Cymru ar hyn o bryd yn ail yn eu grŵp rhagbrofol i geisio cyrraedd y twrnament, ac fe fyddai aros yn y safle hwnnw yn golygu bod lle i dîm Chris Coleman yn yr Ewros y flwyddyn nesaf.

Dechrau gwerthu

Mae UEFA eisoes wedi cyhoeddi y byddan nhw’n gwerthu tocynnau ar gyfer y twrnament rhwng 10 Mehefin a 10 Gorffennaf eleni, gyda’r rhai rhataf yn costio €25.

Bydd cyfle hefyd i brynu tocynnau i ddilyn un tîm yn unig yn cael ei lansio ym mis Rhagfyr 2015, ar ôl i’r holl dimau fydd yn cystadlu gael eu cadarnhau.

Ac yn ôl Paul Corkery o FSF Cymru, mae’r awdurdodau wedi penderfynu y bydd cefnogwyr pob tîm sydd yn cystadlu yn cael 18% o’r tocynnau ar gyfer eu gemau nhw.

Bydd 34% arall o docynnau bob gêm wedyn ar gael drwy arwerthiant cyffredinol, a 10% yr un yn cael eu rhannu rhwng y wasg, noddwyr a UEFA.

Ychwanegodd bod FSF Cymru wedi cael arddeall gan Gymdeithas Pêl-droed Cymru y byddai’r tocynnau y bydden nhw’n ei werthu yn cael eu dosbarthu ar sail eu system bwyntiau presennol.

Mae’r stadiwm leiaf fydd yn cael ei defnyddio yn y twrnament yn Ffrainc, yn Toulouse, yn dal 33,000 ac felly byddai hynny’n golygu bod tua 6,000 o docynnau ar gael i gefnogwyr bob tîm oedd yn chwarae yno.

Herio Gwlad Belg

Bydd Cymru yn chwarae eu gêm ragbrofol nesaf i geisio cyrraedd Ewro 2016 union fis i heddiw, pan fydd Gwlad Belg yn ymweld â Stadiwm Dinas Caerdydd ar 12 Mehefin.

Mae’r holl docynnau ar gyfer y gêm honno eisoes wedi cael eu gwerthu, gan olygu y bydd y stadiwm sydd yn dal 33,000 o bobl yn debygol o fod yn llawn ar gyfer y gêm.

Ar hyn o bryd mae Cymru yn ail yn eu grŵp hanner ffordd drwy’r ymgyrch, yn hafal ar 11 o bwyntiau gyda Gwlad Belg sy’n gyntaf, a dau bwynt o flaen Israel sydd yn drydydd.

Fe fydd y ddau dîm uchaf ym mhob grŵp yn cyrraedd y twrnament yn Ffrainc y flwyddyn nesaf, ac fe fydd pob tîm sydd yn drydydd yn sicrhau o leiaf gêm ail gyfle.

Dyw Cymru heb gyrraedd twrnament pêl-droed rhyngwladol mawr ers Cwpan y Byd 1958, er iddyn nhw ddod yn agos ar sawl achlysur ers hynny.

Byddai trechu Gwlad Belg hefyd yn codi Cymru i’r ugain uchaf yn netholiadau’r byd ac yn sicrhau eu bod ymysg y prif ddetholion pan fydd grwpiau rhagbrofol Cwpan y Byd 2018 yn cael eu dewis.