Mae nifer o wasanaethau wedi cael eu cynnal heddiw er cof am 96 o gefnogwyr pêl-droed Lerpwl fu farw yn Hillsborough 26 o flynyddoedd yn ôl.

Cafodd y gwasanaeth mwyaf ei gynnal yn stadiwm Anfield yn Lerpwl, lle’r oedd aelodau’r teuluoedd a chynrychiolwyr o’r clwb pêl-droed yn bresennol.

Cafodd y 96 eu gwasgu i farwolaeth yn ystod gêm gynderfynol Cwpan yr FA rhwng Lerpwl a Nottingham Forest ar Ebrill 15, 1989.

Yn Sheffield, cafodd seremoni fach ei chynnal o flaen torf o oddeutu 100 o bobol y tu allan i stadiwm Hillsborough.

Cafodd rhestr o enwau’r 96 ei darllen yn y ddau wasanaeth.

Mae’r ail gwest i farwolaethau’r cefnogwyr yn parhau yn Warrington.