Fe fydd gwasanaeth coffa blynyddol i’r 96 o gefnogwyr pêl-droed gafodd eu lladd yn stadiwm Hillsborough yn cael ei gynnal yn Lerpwl heddiw.

Mae’n 26 o flynyddoedd ers i gefnogwyr Lerpwl gael eu gwasgu i farwolaeth yn ystod gêm gynderfynol cwpan yr FA rhwng Lerpwl a Nottingham Forest ar Ebrill 15, 1989.

Bydd munud o dawelwch drwy’r ddinas heddiw am 3.06yp, yr union amser y dechreuodd y trychineb.

Bydd baneri’n cael eu gostwng ar nifer o adeiladau’r ddinas, a chlychau’r ddinas yn canu i goffáu’r rhai fu farw.

Bydd lluniau o’r 96 yn cael eu dangos ar sgrin fawr ger gorsaf drenau Lime Street y ddinas.

Bydd y gwasanaeth coffa yn stadiwm Anfield yn dechrau am 2.45yp, ac fe fydd capteniaid Lerpwl, Steven Gerrard ac Everton, Phil Jagielka yn rhoi teyrngedau.

Cefnder Gerrard, Jon-Paul Gilhooley, 10, oedd yr ieuengaf i golli ei fywyd yn Hillsborough.