Owain Tudur Jones
Mae cyn-chwaraewr Cymru Owain Tudur Jones wedi dweud nad oes gan Gymru “ddim byd i’w ofni” er iddyn nhw golli eu lle ar frig eu grŵp rhagbrofol yng nghystadleuaeth Ewro 2016 neithiwr.

Llwyddodd Gwlad Belg i drechu Israel o 1-0 yn Jerwsalem i symud i frig Grŵp B, yn gyfartal gyda Chymru ar 11 pwynt ond o’u blaen ar wahaniaeth goliau.

Ond, yn ôl Owain Tudur Jones, roedd y canlyniad yn siwtio Cymru hefyd gan gryfhau eu gobaith o orffen yn y ddau le uchaf a chael lle yn y rowndiau terfynol.

Belg nesa’

Fe fydd gêm nesaf tîm Chris Coleman gartref yn erbyn Gwlad Belg ar 12 Mehefin, ac mae disgwyl y bydd Stadiwm Dinas Caerdydd yn orlawn ar gyfer yr ornest.

Ond, hyd yn oed petai Cymru’n colli, mae’r cyn-chwaraewr canol cae yn ffyddiog y byddan nhw’n camu ymlaen.

Yn ôl Owain Tudur Jones, roedd y canlyniad neithiwr rhwng Israel a Gwlad Belg yn coroni wythnos wych i’r tîm cenedlaethol.

“Bysa gêm gyfartal ddim wedi bod yn broblem i ni,” meddai – fe fyddai hynny wedi dod ag Israel hefyd yn nes at Gymru.

Dim Kompany – ‘bonws bach’

“O ddechrau’r grŵp y disgwyl oedd y byddai Gwlad Belg yn ennill pob gêm,” meddai cyn-chwaraewr Abertawe. “Ond dydi o ddim fel eu bod nhw’n ennill pob gêm yn gyfforddus, roedd o fel tasa Israel yn gwneud tipyn o bwyso ar y diwedd [neithiwr].”

Cafodd capten y Belgiaid, Vincent Kompany, hefyd ei anfon o’r cae neithiwr ac fe fydd felly wedi’i wahardd ar gyfer y gêm yn erbyn Cymru – hwb arall, yn ôl Owain Tudur Jones.

“Yn sicr mae o’n fonws, dydi o ddim wedi cael y tymor gorau yn bersonol ond dros y ddau neu dri tymor diwethaf mae o wedi bod yn un o’r amddiffynwyr gorau yn yr Uwch Gynghrair os nad y byd,” meddai.

“Fydd o’n dal i fod yn dîm cryf, ond mae o’n un peth arall ychwanegol sydd yn codi gobeithion [cefnogwyr Cymru].”

‘Dim ond Belg sy’n well’

Mae Cymru eisoes wedi cipio pwyntiau oddi ar y Belgiaid yn yr ymgyrch ar ôl dychwelyd o Frwsel gyda chanlyniad cyfartal di-sgôr ym mis Tachwedd llynedd.

Ond fe ddylai Cymru orffen yn y ddau uchaf hyd yn oed os na wnawn nhw efelychu hynny yng Nghaerdydd ym mis Mehefin, yn ôl y gŵr a enillodd saith cap dros ei wlad.

“Mae’r gêm nesaf yn erbyn Gwlad Belg yn bwysig, ond beth ydan ni’n ei wybod ar ôl chwarae pawb unwaith ydi nad oes yna ddim byd i’w ofni o gwbl,” meddai Owain Tudur Jones, oedd yn sylwebu i Radio Cymru ar y fuddugoliaeth o 3-0 yn Israel.

“Efallai mai Gwlad Belg wnaiff ennill, ond dw i ddim yn meddwl bod ‘na dîm arall sydd yn well na ni [yn y grŵp], ac wrth gwrs mae o yn ein dwylo ni.

“Efallai fod ennill tair [o’r pum gêm sydd yn weddill] yn mynd i fod yn ddigon … ac yn sicr ‘da ni’n ddigon da i guro Cyprus, Andorra ac Israel.”

Bygythiad Bosnia?

Gobaith cefnogwyr Cymru yw na fydd y tîm yn boddi wrth y lan unwaith eto, fel y gwelwyd yn yr ymgyrchoedd aflwyddiannus i geisio cyrraedd Cwpan y Byd 1994 ac Ewro 2004.

Ond mae’r tîm mewn safle llawer cryfach y tro hwn, yn ôl Owain Tudur Jones.

“Mae pobl yn mynd i sbïo nôl ar ymgyrch Ewro 2004 pan enillon ni bedair allan o bedair, ond roedden ni wedi chwarae Azerbaijan ddwywaith yn barod,” esboniodd y cyn-chwaraewr.

“Dydi’r tabl ddim yn ffals [y tro yma], rydan ni ‘di chwarae pawb unwaith.”

Er hynny fe fydd yn rhaid bod yn wyliadwrus o Bosnia, meddai – er eu bod nhw wedi dechrau’r grŵp yn wael, maen nhw’n dîm cryf.

‘Bosnia’n mynd i wella’

Mae Owain Tudur Jones yn dawel hyderus, fodd bynnag, y gall Cymru orffen yn uwch na Bosnia ac Israel a chyrraedd Ffrainc y flwyddyn nesaf.

“Mae Bosnia dal yn eithaf peryg, maen nhw wedi cael hyfforddwr newydd ac mi wnawn ni wella,” cyfaddefodd.

“Ond os ydan ni’n curo tair mi fyddan ni ar 20 pwynt, ac mae’n rhaid i Bosnia ennill pob un o’u pum gêm i gyrraedd 20 pwynt gan gynnwys curo ni a Gwlad Belg.

“Ac o be welais i noson o’r blaen, dwi ddim yn meddwl [wnaiff Israel] gael mwy o bwyntiau na ni yn y pump gêm nesaf.”