Fe sgoriodd Gareth Bale ddwywaith heno, wrth i dîm Chris Coleman hawlio eu lle ar frig Grwp B gemau rhagbrofol Ewro 2016.

Fe gafodd James Collins hefyd gyfle yn gynnar yn y gêm yn Haifa – wedi 18 munud – i roi’r bêl yng nghefn y rhwyd. Ond mi fethodd amddiffynwr West Ham yn ei ymdrech.

Doedd Aaron Ramsey ddim yn debygol o fethu, a’r bachan o Gaerffili sgoriodd gôl gynta’ Cymru heno, a hynny toc cyn chwiban hanner amser. A’r croesiad allweddol? Gan Gareth Bale y daeth hwnnw.

Yn yr ail hanner, doedd dim dwywaith mai Gareth Bale a Chymru oedd yn rheoli’r gêm. Cic rydd ddaeth yn gynta’, ac asgellwr Real Madrid yn llwyddo i’w chyrlio heibio i golwr Israel, Marziano.

Erbyn y 77ain munud, a thrydedd gôl Cymru, roedd y gêm y tu hwnt i Israel. Gareth Bale oedd sgoriwr y drydedd gôl, y tro hwn yn dod o ganlyniad i bas gan Aaron Ramsey a rhediad ysbrydoledig i mewn i’r bocs.