Mae tîm pêl-droed merched wedi gorffen yn bumed yng Nghwpan Istria ar ôl trechu Croatia ar giciau o’r smotyn.

Yn y gêm i benderfynu pwy oedd yn cipio’r pumed a chweched safle, fe aeth Croatia ar y blaen ar ôl 41 munud.

Ond fe sgoriodd Angharad James i Gymru ar ôl 68 munud i’w gwneud hi’n 1-1 ac ar ôl y chwiban olaf fe aeth y gêm yn syth i giciau o’r smotyn.

Cymru oedd yn fuddugol yn y ciciau hynny wrth i Croatia, y tîm oedd yn cynnal y twrnament, orffen yn chweched.

Yn gynharach yn y gystadleuaeth roedd Cymru wedi colli 1-0 i Ffrainc, cael gêm gyfartal 0-0 yn erbyn Bosnia-Herzegovina, a threchu Costa Rica 1-0 yn y grŵp.

Hon oedd twrnament cyntaf Jayne Ludlow fel rheolwr y tîm.

Tîm Cymru: Alice Evans, Loren Dykes, Helen Bleazard, Sophie Ingle (capt), Kylie Davies, Rachel Rowe, Laura May Walkley, Nicola Cousins, Angharad James, Helen Ward, Charlie Estcourt

Eilyddion ddaeth ymlaen: Nia Jones, Cori Williams, Emily Hollinshead, Ffion Price, Sarah Wiltshire