Kylie Davies
Mae tîm pêl-droed merched Cymru wedi ennill eu gêm gyntaf o dan reolaeth Jayne Ludlow ar ôl trechu Costa Rica 1-0 yng Nghwpan Istria.

Sgoriodd Kylie Davies unig gôl y gêm ar ôl 76 munud i sicrhau’r pwyntiau i Gymru, eu gôl gyntaf nhw yn y gystadleuaeth hyd yn hyn.

Yn gynharach yn y gêm fe darodd Loren Dykes y trawst gydag ergyd, ac fe aeth Helen Bleazard a Laura May Walkley yn agos at sgorio i Gymru hefyd.

Collodd Cymru 1-0 i Ffrainc yng ngêm agoriadol y twrnament yng Nghroatia, cyn cael gêm gyfartal 0-0 yn erbyn Bosnia-Herzegovina.

Fe fyddan nhw nawr yn chwarae gêm arall dydd Mercher i benderfynu ym mha safle fyddan nhw’n gorffen y twrnament, ond dyw’r gwrthwynebwyr heb gael eu cadarnhau eto.

Llynedd cafodd Ludlow ei phenodi yn rheolwr newydd tîm merched Cymru yn dilyn ymadawiad Jarmo Matikainen, a Chwpan Istria oedd ei chyfle cyntaf i weld y garfan yn chwarae’n gystadleuol.

Ond fe synnodd hi lawer o bobl wrth adael chwaraewr gorau Cymru, Jess Fishlock, allan o’r garfan gan ddweud ei bod hi eisiau cael golwg ar ambell chwaraewr newydd.