Justin Edinburgh
Mae rheolwr Casnewydd Justin Edinburgh wedi gwrthod cynnig i symud i Gillingham ac wedi dweud y bydd yn arwyddo cytundeb newydd gyda’r clwb.

Roedd Edinburgh yn un o’r ffefrynnau ar gyfer swydd Gillingham sydd yng Nghynghrair Un, ar ôl iddo arwain Casnewydd i’r pump uchaf yng Nghynghrair Dau.

Ond yn ôl y South Wales Argus fe gafodd y rheolwr gyfarfod â’r Bwrdd ddoe ac mae bellach wedi cytuno i arwyddo cytundeb newydd nes 2017.

Mae cefnogwyr wedi bod yn poeni ers rhai wythnosau y byddai’r rheolwr a arweiniodd y clwb allan o’r Gyngres yn gadael.

Ond fe ddywedodd Edinburgh fod y trafodaethau a gafodd gyda swyddogion y clwb wedi bod o fudd.

“Mae’r sïon wedi bod yno ac mae hynny wedi bod yn anodd i mi, alla’i ddim gwadu nad oeddwn i bosib wedi cael fy nenu gan y sefyllfa,” cyfaddefodd Edinburgh.

“Ond mae’r clwb wastad wedi bod yn dda i fi a fi’n teimlo mod arna i’r ffyddlondeb yna iddyn nhw hefyd.

“Fe atebodd Howard Greenhaf rai o fy nghwestiynau i a fi’n falch o roi taw ar y trafod achos dw i wrth fy modd â Chasnewydd.

“Gobeithio nawr y gall pawb ganolbwyntio ar Northampton dydd Sadwrn.”