Rhys Hartley
Am wythnos annisgwyl i Glwb Pêl-droed Dinas Caerdydd!

Wedi dwy flynedd a hanner o chwarae mewn coch, a dim ond ychydig wythnosau wedi i’r perchennog adnabyddus Vincent Tan ailddweud yn blwmp ac yn blaen nad oedd am ystyried newid lliw’r cit yn ôl i’r glas traddodiadol, fe chwaraeodd Caerdydd yn eu hen liwiau yn erbyn Fulham gyda’r addewid y bydd y cit cartref yn yn las o hyn allan.

Rhaid dweud bod hwn yn newid syfrdanol o ystyried hanes didostur Tan a’i ddiffyg parch at deimladau’r cefnogwyr hyd yn hyn.

Ond pwy all feio’r dyn busnes llwyddiannus o’r dwyrain? Cafodd ei groesawu â breichiau agored wrth feddiannu’r clwb yn 2010 ac, er y protestiadau ar y cychwyn, fe gefnogodd nifer fawr o ffans ei benderfyniad i newid cit y clwb yn sgîl ei addewid i fuddsoddi £100m yn y clwb.

Yn wir, heblaw bod yr arian yn dal i fod ar ffurf benthyciad, mae Tan wedi cadw at ei air ac roedd y cefnogwyr yn hapus i lenwi Stadiwm Dinas Caerdydd bob yn ail wythnos wrth i’r tîm gyrraedd yr Uwch Gynghrair.

Rhod yn troi

Yn dilyn y dyrchafiad yn 2013 fe gynyddodd y protestiadau yn erbyn y coch, gyda’r haf hwnnw yn gweld genedigaeth mudiad ‘Bluebirds Unite’ i arwain y protestiadau.

Ymunodd Ymddiriedolaeth y Cefnogwyr â’r ymgyrch hefyd wedi i’w haelodau ‘galedu’ dros y mater.

Trwy gydol 2014 fe gynyddodd y nifer oedd yn protestio unwaith eto, gyda sacio Malky Mackay a disgyn o’r Uwch Gynghrair yn amlwg yn cael effaith ar y cefnogwyr.

Ond dechrau eleni fe welwyd y brotest fwyaf yn erbyn Tan – stadiwm bron yn wag ar gyfer y gêm gwpan yn erbyn Colchester.

I fod yn deg, dim ond mil yn llai na chyn-record isa’r grownd oedd yno. Ond roedd y seddi gwag yn ddatganiad mawr a chlir gan y cefnogwyr.

Wedi’r cwbl, fel dywedodd y diweddar Jock Stein: “Does dim pêl-droed heb gefnogwyr”.

Gwneud y gwahaniaeth

Mae’n rhaid cwestiynu dyfnder teimladau’r cefnogwyr. Wedi’r cwbl, mi roedd hi’n gêm oer ar nos Wener, jyst wedi’r Nadolig, roedd hi ar y teledu, yn erbyn gwrthwynebwyr gwan, a’r clwb hefyd ar rediad gwael.

Protest go iawn oedd hi, ynteu cyd-ddigwyddiad cyfleus i’r ymgyrchwyr?

Ers i mi stopio mynychu gemau Caerdydd – boicot fel mae nifer yn hoffi ei alw – dw i wedi dadlau mai dim ond cwpwl o gemau fyddai’n rhaid i’r ffans aberthu er mwyn gwir ddangos i Tan taw clwb y cefnogwyr ydyw, nid ei degan ef.

Mae’n bosib na fyddai hynny wedi cael effaith ar Tan wedi ei ddatganiadau trahaus, ond roedd rhaid gwneud rhywbeth.

A dyna ddigwyddodd yn y pen draw – un gêm gyda stadiwm wag gymerodd hi.

Y difrod wedi’i wneud

Gwell hwyr na hwyrach, ‘sbo. Dw i’n falch bod nifer o’m ffrindiau yn gallu dychwelyd i wylio’r clwb yr oedden nhw’n ei garu cymaint.

Fe aeth nifer i’r gêm yn erbyn Fulham a mwynhau mas draw, sy’n addawol iawn.

I fi, yn anffodus, mae’r boicot wedi troi mewn i rywbeth arall. Galla’ i ddim galw fy hun yn gefnogwr Caerdydd rhagor.

Roedd y misoedd cyntaf yn anodd iawn ond dw i wedi dygymod â’r golled.

Mae hi wedi bod yn newid byd mawr i mi, i beidio teithio i bellafion Lloegr bob yn ail wythnos a heb dreulio pob penwythnos arall yn dilyn yr un routine a’r arfer. Ond fel ‘na mae hi.

Fe adawais i’r clwb achos do’n i ddim yn teimlo mod i’n perthyn rhagor, fod y clwb ddim yn golygu’r un peth i’r rhan fwyaf ag oedd hi i mi.

Collwyd y lliw glas, yr aderyn glas a’r hanes, ac roedd y mwyafrif yn hapus i aberthu canrif o draddodiad am lwyddiant dros dro.

Fe gynyddodd y protestio dim ond pan oedd y clwb yn colli ar y cae. Mae’n debyg fod y cefnogwyr moyn ei chael hi bob ffordd.

Pwy a ŵyr …

O leia’ nawr, fe fydda’i ddim yn mynd mas o fy ffordd i osgoi gwylio Caerdydd.

Pwy a ŵyr, os oes tocyn sbâr ‘da rhywun, falle fe af i nôl a falle fe wna i fwynhau a theimlo’r un buzz a ro’n i’n cael bob wythnos am dros ddeunaw mlynedd. Ond ar y foment, dyw hi dal ddim i fi.

Gan y bu Jock Stein farw yn hen stadiwm Caerdydd, Parc Ninian, rwy’n gobeithio y gall y clwb gymryd ei eiriau o ddifrif ac agor deialog parhaol gyda’r cefnogwyr – a bod yn esiampl i glybiau ar draws y wlad.

Symptom o broblem ddyfnach oedd newid lliwiau Caerdydd ond, trwy weld synnwyr, maen nhw wedi dechrau cymodi.

Y gamp yn awr fydd i’r clwb a’r cefnogwyr symud ymlaen fel un a cheisio trwsio’r gêm brydferth.