Mae cyn-reolwr tîm pêl-droed merched Cymru wedi cael ei benodi fel is-reolwr tîm cenedlaethol Canada, ychydig fisoedd cyn iddyn nhw gynnal Cwpan y Byd.

Jarmo Matikainen oedd y rheolwr llawn amser cyntaf ar dîm merched Cymru, ac fe arweiniodd y tîm yn ystod yr ymgyrch ddiwethaf pan ddaethon nhw’n agos at ennill lle yng Nghwpan y Byd.

Mae’r gŵr o’r Ffindir nawr wedi cael ei benodi fel is-reolwr ar dîm Canada, nawfed tîm gorau’r byd, fydd yn cynnal y gystadleuaeth dros yr haf eleni.

Effaith Matikainen

Llwyddodd Matikainen i greu cryn argraff ar bêl-droed merched yng Nghymru yn ystod ei bedair blynedd wrth y llyw, gan wella safonau’r tîm cenedlaethol a’r timau ieuenctid.

Cododd y tîm i 32ain yn rhestr detholiadau’r byd tra roedd Matikainen yn rheolwr, yr uchaf maen nhw erioed wedi bod.

Ym mis Ionawr 2014 fe gyhoeddodd Matikainen y byddai’n gadael ei swydd fel rheolwr y tîm er mwyn treulio mwy o amser gyda’i deulu yn y Ffindir.

Ond cafodd ei berswadio i aros wrth y llyw nes diwedd yr ymgyrch ragbrofol i geisio cyrraedd y twrnament yng Nghanada yn 2015.

Mae tîm Cymru bellach o dan reolaeth Jayne Ludlow, ac yn paratoi i gymryd rhan yng Nghwpan Istra yng Nghroatia ym mis Mawrth.