Iolo Cheung
Iolo Cheung sydd yn bwrw golwg dros y penwythnos i ddod ar gyfer clybiau a phêl-droedwyr Cymru …

Efallai bod cyfnod y Nadolig yn amser i edrych nôl ar y flwyddyn a fu i’r rhan fwyaf ohonom ni.

Ond nid yn y byd pêl-droed – hwn ydi cyfnod prysura’r flwyddyn, ac felly mae’r sylw i gyd ar geisio casglu digon o bwyntiau dros yr wythnosau nesaf i fod mewn safle da yn y flwyddyn newydd.

Dyma bum peth i gadw llygad arnyn nhw’r penwythnos yma, os fyddwch chi’n gwisgo’ch sbectol ‘Gymraeg’.

Hammertime

Er bod Abertawe yn hedfan yn uchel yn yr Uwch Gynghrair ar hyn o bryd, mae goliau’n parhau yn broblem i’r Elyrch.

Maen nhw wedi bod yn dibynnu’n fawr ar Wilfried Bony yn ddiweddar, ac felly os nad ydi’r gŵr o Draeth Ifori yn tanio (ac mae o ffwrdd i Gwpan Cenhedloedd Affrica fis nesa’) mae goliau’n medru bod yn brin.


Mae Bony wedi bod yn ysgwyddo'r baich yn ddiweddar
Dim ond un gôl mae Gylfi Sigurdsson wedi sgorio yn ei pum gêm ddiwethaf (a chreu dim ond un hefyd), a doedd Wayne Routledge heb sgorio na chreu un mewn chwe gêm tan iddo rwydo yn erbyn QPR yr wythnos diwethaf.

Dim ond dwy gôl mae Nathan Dyer wedi’i greu ers mis Awst, a rhwng y pedwar ohonyn nhw dim ond creu dwy a sgorio dwy y mae Jonjo Shelvey, Jefferson Montero, Bafetimbi Gomis a Marvin Emnes wedi’i wneud drwy’r tymor.

Does gan Abertawe ddim gormod o gemau rhy heriol i ddod dros y mis nesaf, gan ddechrau gyda West Ham dydd Sul cyn wynebu Spurs, Hull, Aston Villa a Lerpwl.

Amser gwych i rai o’r chwaraewyr eraill ffeindio’u sgidiau sgorio, felly.

Slade eisiau anrheg Dolig cynnar

Go brin y byddech chi’n meddwl bod Caerdydd yn cael tymor go-lew ar hyn o bryd.


Mae un rheolwr eisoes wedi cael y sac, yr un newydd dal yn arbrofi gyda’i dîm, cytundeb un chwaraewr newydd gael ei ddiddymu, a’r cadeirydd yn y penawdau o hyd.

Dim ond wythnos diwethaf y llwyddodd y tîm i ennill oddi cartref am y tro cyntaf y tymor hwn hefyd.

Ond tymor go-lew maen nhw’n ei gael, serch hynny, dim ond dau bwynt o safleoedd y gemau ail gyfle.

Fe allan nhw godi i’r chwech uchaf gyda buddugoliaeth gartref yfory yn erbyn Rotherham, sydd yn 21ain yn y tabl a heb ennill mewn saith gêm.

Mae’r pedair gêm ar ôl hynny yn erbyn Bournemouth, Brentford, Charlton a Watford, sydd i gyd yn y deg uchaf, felly mi fysa Slade yn gwerthfawrogi anrheg Nadolig cynnar fory cyn rhediad heriol o gemau.

Malky wedi pwdu?

Mae’n deg dweud nad ydi Malky Mackay wedi sleifio mewn i’w swydd newydd gyda Wigan yn ddistaw.

Mae’r honiadau o hiliaeth yn parhau yn gwmwl uwch ei ben, ac ni wnaeth ei gadeirydd newydd Dave Whelan helpu’r sefyllfa o gwbl gyda sylwadau digon amheus ei hun – mae’r FA yn dal i ymchwilio i sylwadau’r ddau.


Emyr Huws
Ond gobeithio nad yw Mackay wedi pwdu â’r Cymry ar ôl ei brofiad yng Nghaerdydd – achos ers i’r Sgotyn gamu drwy ddrysau Stadiwm DW mae Emyr Huws wedi colli’i le yn y tîm.

Fe ddechreuodd y Cymro 13 o’r 17 gêm gynghrair o dan Uwe Rosler, gan fethu eraill oherwydd anafiadau, ond ers i Mackay gyrraedd mae Huws wedi treulio dwy gêm gyfan ar y fainc.

Does ganddo ddim yr opsiwn o symud nôl i Man City nawr petai’n parhau i beidio â chael ei ddewis, ar ôl penderfynu symud yn barhaol i Wigan yn yr haf.

Felly fe fydd yn rhaid gobeithio bod Mackay yn cael tro ar fyd, a dangos ffydd yn y seren ifanc oedd yn gyn-gapten ar dimau ieuenctid City.

Sam ar ei ffordd nôl


Sam Vokes
Dyw hi ddim yn debygol y bydd Sam Vokes yn ffit ar gyfer gêm Burnley yn erbyn QPR y penwythnos hwn, wrth iddo barhau i wella o anaf difrifol i’w ben-glin.

Ond y newyddion da ydi fod y Cymro bellach nôl ar y cae – a heb anghofio sut mae sgorio chwaith.

Mae’r ymosodwr eisoes wedi chwarae dwy gêm i ail dîm Burnley dros y pythefnos diwethaf, gan chwarae 45 munud a sgorio yn ei gêm gyntaf cyn cwblhau 70 munud a sgorio dwy yn ei ail.

Dydi ymosodwyr Burnley heb fod yn tanio yn ei absenoldeb – dim ond deg gôl maen nhw wedi sgorio drwy gydol y tymor yn y gynghrair a hynny’n bennaf diolch i Danny Ings, partner Vokes y llynedd.

Mae QPR wedi ildio 27 gôl y tymor hwn yn barod, mwy na neb yn y gynghrair, felly os ydi Burnley yn cael rhagor o och a gwae o flaen y gôl y penwythnos hwn, peidiwch â synnu o weld Vokes nôl mor fuan â phosib.

Cyfle i Lawrence?


Tom Lawrence
Pan wnaeth Tom Lawrence ei ymddangosiad cyntaf i Man United ar ddiwedd tymor diwethaf, roedd cefnogwyr Cymreig y Red Devils wrth eu bodd.

Siom felly oedd ei weld yn cael ei werthu i Gaerlŷr, gan olygu na fyddai’n cael cyfle i wneud argraff yn Old Trafford – ond o leia’ fydd o’n cael mwy o gemau fanno, meddai’r Cymry.

Wel, wedi tri mis a ddim hyd yn oed lle ar y fainc iddo unwaith yng Nghaerlŷr, ffwrdd a fo i Rotherham ar fenthyg.

Mae’n golygu y gallai dau Gymro fod ar y cae yn Stadiwm Dinas Caerdydd, a dim un ohonyn nhw’n chwarae i Gaerdydd (y llall ydi capten Rotherham, Craig Morgan).

Hynny ydi, os gaiff Lawrence gêm – mi fydd angen y cyfle arno i ddangos ei fod yn gallu sgorio goliau yn y Bencampwriaeth os oes ganddo unrhyw obaith o barhau i chwarae ar lefel uwch.