Jason Brown efo carfan Cymru
Mae cyn-golwr Cymru Jason Brown wedi cyhuddo cefnogwr Bristol Rovers o wneud sylwadau hiliol amdano mewn gêm neithiwr – a bod stiward cyfagos wedi anwybyddu’r digwyddiad.

Roedd Brown, sydd wedi ennill tri chap dros Gymru, yn chwarae i Dartford i ffwrdd o gartref yn erbyn Bristol Rovers yn y Gyngres neithiwr.

Ar ôl y gêm, fe drydarodd Brown gan ddweud fod cefnogwr Rovers y tu ôl i’w gôl wedi gwneud sylwadau hiliol tuag ato, ac na wnaeth y stiward na’r dyfarnwr unrhyw beth.

Yn ôl y golwr, mae Heddlu Avon a Gwlad yr Haf nawr yn ymchwilio i’r mater, gyda chefnogaeth y ddau glwb.

Negeseuon trydar

Ar ôl y gêm neithiwr, ble enillodd Rovers 1-0, fe drydarodd Brown ei fersiwn ef o’r digwyddiadau.

“Newydd chwarae yn erbyn Bristol Rovers a chefais sylwadau hiliol gan rywun oedd yn sefyll wrth ymyl stiward a benderfynodd gwneud dim!” meddai yn y neges gyntaf.

“Fe wnes i ddweud wrth y dyfarnwr a phwyntio at y person oedd yn gwneud e a, syrpreis syrpreis, wnaeth neb unrhyw beth!” aeth ymlaen i’w ddweud.

Yn nes ymlaen fe ail-drydarodd Brown neges gan gefnogwr Bristol Rovers oedd yn dweud wrth y cefnogwr sarhaus gael ei wahardd o’r stadiwm.

Ond yna fe ychwanegodd neges arall, yn dweud y dylai’r dyn fod wedi cael ei arestio.

“Cafodd ei hebrwng allan. Nawr os dw i’n cofio’n iawn mae sarhad hiliol yn drosedd ac felly os oedden nhw gyda fe, fe ddylen nhw fod wedi’i ddal e,” ychwanegodd y golwr.

Llun o’r stiward?

Dyw clybiau Dartford na Bristol Rovers wedi ymateb yn swyddogol i’r digwyddiad honedig eto, ond fe ddywedodd rheolwyr y ddau dîm ar ôl y gêm neithiwr nad oedden nhw yn gwybod yn union beth ddigwyddodd.

Fe ail-drydarodd Brown neges arall gan gefnogwr gyda llun o’r tu ôl i’r gôl oedd yn honni mai’r stiward yn y llun oedd yr un benderfynodd peidio â gwneud unrhyw beth, ond dyw hynny heb ei gadarnhau.

Ac fe anfonodd cyfrif Twitter ‘Clwb Cefnogwyr Bristol Rovers’ neges at y golwr yn dweud y byddan nhw’n rhoi pwysau ar gyfarwyddwyr eu clwb i ddelio â’r mater, gan ddweud fod y peth yn “afiach”.

Fe arwyddodd Jason Brown i Dartford dros yr haf, ar ôl gyrfa welodd y gŵr 32 oed yn chwarae i Gillingham, Blackburn ac Aberdeen ymysg eraill.

Fe enillodd ei gap diwethaf i Gymru yn 2012, yng ngêm gyntaf Chris Coleman fel rheolwr, pan gollodd y tîm 2-0 i Fecsico yn Efrog Newydd
.