Pwy fydd yn cipio Cwpan Capital One a'r tlysau eraill eleni?
Fe fydd tymor Uwch Gynghrair Lloegr yn dechrau yn ôl y penwythnos yma, ac ar drothwy’r tymor newydd mae criw golwg360 wedi dod at ei gilydd i geisio darogan y flwyddyn i ddod.

Mae’r tymor eisoes wedi dechrau i rai o glybiau Cymru wrth gwrs gan gynnwys Caerdydd, Casnewydd a Wrecsam, ac fe fydd cic gyntaf Uwch Gynghrair Cymru y penwythnos nesaf.

Yn ogystal â hynny, fe fydd Cymru’n dechrau eu hymgyrch ragbrofol Ewro 2016 y tymor hwn gyda phedair gêm yn yr hydref.

Yn ymuno ag Owain Schiavone, Barry Chips a Iolo Cheung wrth edrych i mewn i’r belen grisial mae blogwyr pêl-droed golwg360, Rhys Hartley a Llywelyn Williams.

Enillwyr yr Uwch Gynghrair

Owain Schiavone: Mae Chelsea wedi mynd o gwmpas eu gwaith yn dawel bach dros yr haf ac wedi cryfhau tîm ddylai fod wedi ennill y gynghrair llynedd, felly tîm Mourinho i mi.

Barry Chips: Man Utd. Heb orfod ymdopi efo’r straen o chwarae yn Ewrop, bydd hogia Jar Jar Bincs (Lewi Van Gaal) – fel Lerpwl y tymor diwetha’ – yn elwa o Ewro-segura.

Iolo Cheung: Chelsea – maen nhw’n ddigon trefnus a soled yn amddiffynnol yn barod (gwaetha’r modd), a gydag ychwanegiad Costa a Drogba fe ddylwn nhw fod yn fwy o fygythiad eleni.

Rhys Hartley: Arsenal. Dwi newydd symud i fyw rownd gornel i’r maes ac mae ’na ryw buzz o gwmpas y lle. Mae eu chwaraewyr newydd yn eu gwneud yn dîm cryf iawn yng nghanol y cae a bydd Ramsey yn serennu eto.

Llywelyn Williams: Lerpwl – wedi arwyddo chwaraewyr addawol iawn. Carfan gryf tu hwnt, ac wedi ail ddarganfod sut i ennill gemau ar yr amser cywir.

Enillwyr Cynghrair y Pencampwyr


A fydd Bale yn codi Cwpan Ewrop gyda Real unwaith eto?
OS:
Anodd gweld heibio Real Madrid a’r Galacticos diweddaraf, mae ganddyn nhw gasgliad anhygoel o chwaraewyr.

BC: Real Madrid fydd y tîm cynta’ i ddal eu gafael ar y tlws, gyda’u casgliad hollol boncyrs o ymosodwyr disglair – ond bydd angen Sami Khedira holliach i sicrhau balans.

IC: Bayern Munich – Dwi’n tybio y bydd Pep wedi dysgu o’r grasfa gawson nhw gan Real y llynedd, ac yn chwarae i gryfderau’r Almaenwyr enillodd Gwpan y Byd.

RH: Un anodd iawn. Anodd gweld heibio Real eto ar ôl arwyddo James Rodriguez ond dwi’n gweld cyfle am sioc yn y gystadleuaeth, felly PSG i’w hennill.

LW: Er bod Real Madrid wedi cael chwaraewyr o’r un safon, mae gen i deimlad mai blwyddyn Barcelona yw hi gyda Neymar, Suarez a Messi fyny yn ymosod.

Enillwyr Cwpan FA a Chwpan Capital One

OS: Dwi’n credu ei bod yn bryd i Man Utd ennill Cwpan yr FA, a dwi am fynd am Arsenal yng Nghwpan y Gynghrair.

BC: Everton Bobi Martinez a Stoke Sbarci Marci.

IC: Van Gaal i ennill rhywbeth yn ei dymor cyntaf gyda Man Utd, a Lerpwl hefyd yn cipio cwpan (gawn ni weld pwy gaiff pa un).

RH: Heb Ewrop, rhaid i Man Utd fynd amdani yn y cystadlaethau cenedlaethol a dwi ddim yn gweld nhw’n ennill y Prem felly nhw i gipio un ohonynt, ac Everton i fynd ag un.

LW: Cwpan FA yn mynd i Man Utd – mi wneith Van Gaal gael y gorau o’r chwaraewyr, yn enwedig mewn cwpanau. Spurs i gipio’r Capital One gyda’u rheolwr addawol Mauricio Pocchetino.

Prif Sgoriwr yr Uwch Gynghrair


Ai Wayne Rooney fydd yn cipio'r esgid aur y tymor hwn?
OS:
Mae’n dibynnu i raddau faint o anafiadau gaiff van Persie, ond mae Chelsea wedi arwyddo Diego Costa i sgorio goliau ac ar sail eu gemau cyfeillgar mi wneith y Sbaenwr hynny.

BC: Wayne Rooney wedi ei aildanio a’i ailddiffinio gan Jar Jar Van Gaal.

IC: Dwi’n disgwyl i Wayne Rooney lenwi’i sgidiau y tymor yma, a’i chipio hi oherwydd bod y timau mawr eraill yn tueddu i rannu’r goliau o gwmpas – van Persie ydi’r unig un arall fydd yn sgorio i Man U.

RH: Os all Sergio Aguero gadw’n iach i Man City yna mi fydd e’n sicr o fod lan yna.

LW: Didier Drogba – ar bapur, mi fydd Drogba’n rhan o garfan gryfach yn Chelsea y tymor hwn na fuodd o gynt. Disgwyl iddo gael y goliau gyda system Mourinho.

Y tri tîm aiff lawr

OS: Burnley, West Brom ac os na wnawn nhw ddechrau arwyddo chwaraewyr yn fuan iawn, Southampton.

BC: Y tri sy’n dod fyny… (Caerlŷr, Burnley a QPR)

IC: Burnley, West Brom ac Aston Villa – yr un ohonynt wedi cryfhau rhyw lawer dros yr haf, a fyswn i ddim yn synnu i weld rheolwyr y Baggies a Villa wedi mynd cyn diwedd y tymor.

RH: West Brom, heb gryfhau digon. Hull, pwysau’r Europa. Burnley, chwaraewyr ddim yn barod ar y lefel ucha’.

LW: QPR, Burnley, West Brom – ddim yn credu fod gan y tri tîm y nerth seicolegol na chorfforol i oroesi. Disgwyl i West Brom stryglo am bwyntiau, cael a chael fu hi’r tymor diwethaf.

Chwaraewr y Flwyddyn


A fydd Ramsey'n dathlu ar ddiwedd y tymor?
OS:
Os allith o gadw’n ffit, Aaron Ramsey i fod hyd yn oed yn well na llynedd (gobeithio!).

BC: Does gen i ddim syniad, ond gan ei fod o wedi brifo’r tymor diwetha’ ac ar dân i danio ar chwe silindr y tymor yma, dwi am fynd am Sergio Aguero.

IC: Pwy bynnag sydd yn sgorio’r mwyaf allan o Wayne Rooney neu Daniel Sturridge, gan bod Saeson yn tueddu i gael eu ffafrio yn y gwobrau diwedd tymor.

RH: Heb fod yn rhy biased, bydd Aaron Ramsey yn serennu yng nghanol y cae i Arsenal dim ond ei fod yn cadw’n iach.

LW: Bydd Cesc Fabregas yn cael tymor da i Chelsea eleni.

‘Signing’ y Tymor

OS: Mae Costa a Fabregas yn mynd i fod yn dda i Chelsea, a bydd Herrera’n gwneud gwahaniaeth mawr i Man Utd ond gall Alexis Sanchez weddnewid Arsenal.

BC: Jar Jar Van Gaal, sôn am chwa o awyr iach tawel-hyderus sy’ am fod yn Fistar ar sawl Mistar Mostyn draw tua’r Hen Draffordd …

IC: Dwi’n disgwyl y bydd Alexis Sanchez yn tanio i Arsenal, ac yn edrych ymlaen i weld sut wnaiff Remy Cabella yn Newcastle hefyd.

RH: Bojan Krkic i Stoke, dal yn ifanc a pwynt ’da fe i’w brofi.

LW: Adam Lallana i Lerpwl. Mae gennai deimlad y bydd yn dysgu lot gan Gerrard ac yn ei gymryd o fewn heb fawr o drafferth.

Gorgyflawni


A fydd Andy King yn rhan o dîm Caerlŷr all synnu pawb?
OS:
Mae QPR a Chaerlŷr yn glybiau mawr sydd wedi eu dyrchafu, a dwi’n meddwl y caiff Harry Redknapp dymor da gyda chwaraewyr sy’n brofiadol yn yr Uwch Gynghrair.

BC: Bydd Arsenal yn mwynhau sawl buddugoliaeth yn erbyn y timau mawr y maen nhw wedi methu eu curo ers dyddiau Bobi Pires a Theri Henri …

IC: Fyswn i ddim yn synnu petai Caerlŷr yn gwneud debyg i Hull y llynedd, ac aros fyny’n gyfforddus ar y cynnig cyntaf.

RH: Mae’n edrych fel bod Caerlŷr wedi cryfhau digon er mwyn gwthio eu ffordd lan y tabl.

LW: Mae arwyddo Lukaku wedi bod yn allweddol i Everton. Mi fyddwn nhw’n gryf iawn o ran anelu am le yn Ewrop unwaith yn rhagor.

Tangyflawni

OS: O’i gymharu â’i llwyddiant llynedd, Southampton.

BC: Lerpwl – arwyddwyd gormod o chwaraewyr ‘addawol’ ar gyfer ‘y dyfodol’, ac mae’r ffaith eu bod nhw’n ystyried arwyddo Eto’o yn arwydd o banig ynghylch tarddiad y goliau angenrheidiol i wneud rhywbeth ohoni.

IC: Pawb yn disgwyl na gaiff Southampton dymor cystal, ond dw i ddim yn meddwl y bydd Man City mor dda eleni chwaith, er efallai y gwnawn nhw roi gwell cynnig ar bethau yn Ewrop y tro hwn.

RH: Ar ôl tymor mor dda llynedd ac wedi colli eu chwaraewyr gorau, bydd Southampton yn methu cadw y safon uchel ac yn wynebu brwydr ar y gwaelod.

LW: Efallai bod disgwyl i Man City nawr ennill y dwbl (h.y. Prem + Cwpan Ewrop), felly fe fyddwn nhw o dan lot o bwysau. Ac mae Yaya Toure yn mynd i’r African Nations Cup ym mis Ionawr.

Lle wnaiff Abertawe orffen


A fydd goliau Bony a Gomis i gadw Abertawe'n saff?
OS:
Dwi’n ofni bod y garfan wedi gwanhau rhywfaint, a’i bod yn debygol o fod yn dymor anodd i’r Elyrch, ond dylen nhw orffen yn 13eg neu 14eg yn y tabl.

BC: Mi fwyta i fy het os na orffenwn nhw yn uwch na Chaerdydd … BWM BWM!

IC: Poeni rhywfaint amdanyn nhw a dweud y gwir, ond dwi’n meddwl y gwnawn nhw ddigon i aros fyny – 15eg.

RH: Amser i Monk brofi ei hun a wedi arwyddo dau chwaraewr gwych (Gomis a Sigurdsson) ond yn poeni amdanyn nhw yn y cefn. Tymor tebyg i eleni yn poeni am gwympo am sbel ond yn ddiogel yng nghanol y tabl erbyn y diwedd. 13eg.

LW: 13eg. Ddim am roi’r byd ar dân dybiwn i, wedi cryfhau’r garfan, golwyr da, gan anelu am safle saff diflas, a hynny wnaiff ddigwydd. Ennill rhai, colli rhai.

Lle wnaiff Caerdydd orffen

OS: Y gemau ail gyfle, ond dim dyrchafiad eleni.

BC: Dim ffydd yng ngallu Ole ‘ges di’r ddawn’ Solskjaer i asio’r garfan yn ddigonol ar gyfer dyrchafiad awtomatig, ond mae o’n gweld y positif ym mhopeth – fel Bobi Martinez – felly croesi bysedd y daw llwyddiant yn y gemau ail gyfle.

IC: Carfan gryf ond ddim yn meddwl y byddwn nhw’n barod am y Bencampwriaeth – gemau ail gyfle a cholli yn fanno.

RH: Rhaid i Solskjaer ennill dyrchafiad eleni ar ôl gwario cymaint ym mis Ionawr ac yn yr haf. Ond dwi’n poeni am eu hamddiffyn hefyd sy’n edrych yn wan iawn a heb ei gryfhau. Jyst yn y gemau ail gyfle os ydyn nhw’n cryfhau ym mis Ionawr.

LW: Safle y gemau ail gyfle mae’n debyg. Mwy o gemau, llai o gefnogwyr, llai o hype amdanynt. Efallai y bydd y diffyg sylw o fantais, ond gall hefyd greu niwed os oes diffyg awch drostyn nhw i wneud yn dda.

Gobeithion Casnewydd a Wrecsam

OS: Dwi ddim yn gweld yr un o’r ddau dîm yn ennill dyrchafiad, ond yn cystadlu am y gemau ail gyfle.

BC: Tra’n dymuno’r gorau i holl glybiau Cymru, does gen i ddim syniad am eu gobeithion … ond o gael cip sydyn ar wefan y Dreigiau, rhaid dweud bod dyluniad eu crys yn hyfryd.

IC: Y ddau i orffen yn yr hanner uchaf, ond heb wir boeni’r safleoedd ail gyfle – gobeithio’n fawr bod Wrecsam yn fy mhrofi i’n anghywir, a bod Kevin Wilkin yn dangos beth mae’n galli’u wneud ar y lefel yna.

RH: Gobeithio na fydd y cae’n amharu ar dymor Casnewydd eto – tymor tebyg ond heb obeithion llynedd dwi’n gweld eleni. Dim byd i awgrymu fod Wrecsam yn gallu bygwth dyrchafiad, yn anffodus. Credu y bydd yn rhaid iddyn nhw edrych ar waelod y tabl ag ofn am ran helaeth o’r tymor gan bydd y gynghrair yn dynn.

LW: Casnewydd i orffen mewn safle saff yn League 2 (tua 11ed). Gemau ail gyfle ar y gorau i Wrecsam – mae’u dilyn nhw yn rhwystredig a stressful iawn!

Uwch Gynghrair Cymru


Y Seintiau Newydd - ffefrynnau eto am Uwch Gynghrair Cymru
OS:
Byddai’n braf gweld Aberystwyth a Bangor yn cystadlu tua’r brig, ond mae arna i ofn mai’r Seintiau Newydd eith a hi eto.

BC: Y clwb o Loegr efo’r cae smâl a’r gefnogaeth sâl … (Y Seintiau)

IC: Ras agos eto rhwng Airbus a’r Seintiau Newydd, ond dwi am ragweld sioc gydag Airbus yn ei chipio hi.

RH: Eto mae’r Seintiau Newydd yn edrych fel y byddwn nhw’n rhedeg i ffwrdd â’r gynghrair, â’u perfformiad da yn Ewrop yn cadarnhau hynny. Wedi dweud hynny, os gall Airbus fanteisio ar eu cae ffug newydd yna gallwn nhw fod yn fygythiad hefyd.

LW: Dwi am ddeud Rhyl. Tîm ar i fyny. Ond mae’r Seintiau Newydd wastad yn ffefrynnau cryf iawn.

Sut wnaiff Cymru ddechrau’r ymgyrch Ewro 2016

OS: Tair buddugoliaeth yn y tair gêm gyntaf (Andorra, Bosnia-Herzegovina a Cyprus), a dwy gêm gyfartal oddi cartref wedyn yn erbyn Gwlad Belg ac Israel. (11 pwynt)

BC: Dim rheswm yn y byd pam na allwn ni ennill tair a wynebu’r Beljans yn llawn hyder a fim … ond no wê fydda i’n mynd i Israel Awê. (o leiaf naw pwynt)

IC: Rhaid cael o leiaf chwe phwynt yn y bedair gyntaf – dwi’n gweld ni’n cael saith – mae’n rhaid trio curo Israel wedyn, ond byddai pwynt ddim yn ddiwedd y byd. (wyth pwynt)

RH: Rhaid i ni fynd i wlad Belg ar frig y tabl neu mae ennill y grŵp allan o’n gafael ni. Gwledd o goliau yn erbyn Andorra, pwynt yn erbyn Bosnia, a curo Cyprus. Os allen ni guro Bosnia cawn fynd i Frwsel heb gormod o bwysau a chipio pwynt, ond dwi’n gweld colled ym Mrwsel a gêm gyfartal yn Israel. (wyth pwynt)

LW: Andorra – ennill, Bosnia – cyfartal, Cyprus – ennill, Belg – colli, Israel – gaiff y gêm ei chwarae?! Fyddai o ddim yn deg i’r chwaraewyr, na’r cefnogwyr, os fydd rhaid chwarae yn Israel ei hun. (o leiaf  saith pwynt)

Un dymuniad ar gyfer y tymor i ddod


A welwn ni Emyr Huws yn yr Uwch Gynghrair rywbryd y tymor hwn?
OS:
Gweld rhai o hogiau ifanc Cymru – Tom Lawrence, Emyr Huws a Joniesta’n arbennig – yn cael cyfle a rhediad o gemau yn Uwch Gynghrair Lloegr, ac yn serennu i Gymru yn y broses.

BC: Hoffwn weld Caernarfon Town yn codi i’r Uwch Gynghrair er mwyn i fy meibion gael profi gwefr Bangor v Gnarfon ar Ddiwrnod Bocsio a’r gwynt yn gafael.

IC: Everton yn ennill Cynghrair Ewropa, neu gweld Joniesta’n cael cyfle yn y Prem eleni – tasa fo’n dod i Goodison fe ddaw’r ddau’n wir dw i’n siŵr!

RH: Bod y cefnogwyr yn llwyddo i gymryd gafael o’r clwb pêl-droed yn Clapton ac yn ailbenodi’r hen reolwyr.

LW: I Gymru gael dechrau da iawn i ymgyrch Ewro 2016, gan brofi fi’n anghywir mewn rhai o’r gemau dwi ‘di ddarogan.