Ravel Morrison
Mae’r pêl-droediwr Ravel Morrison wedi cael ei gyhuddo o ymosod ar ddwy ddynes.

Cafodd ymosodwr West Ham, sy’n 21 oed, ei arestio gan Heddlu Manceinion yn dilyn digwyddiad y tu allan i far yn y ddinas yn oriau mân bore Sul.

Mae e wedi’i gyhuddo o ymosod ar y ddwy am yr ail waith oriau’n ddiweddarach.

Fe fydd Morrison, sy’n byw yn ardal Manceinion, yn ymddangos gerbron Llys Ynadon Manceinion a Salford yn ddiweddarach heddiw.