Daniel Johnson
Daniel Johnson sydd asesu’r ornest rhwng BBC ac ITV yng Nghwpan y Byd

Oni bai eich bod wedi bod yn byw o dan gragen dros y misoedd diwethaf, mae’n siŵr eich bod wedi sylweddoli fod Cwpan y Byd 2014 newydd gychwyn.

Am fis cyfan, bydd amserlen y BBC ac ITV yn cael eu newid i gynnwys y wledd o bêl-droed.

Er mwyn cadw ein diddordeb, mae’n rhaid i’r sianeli fod hefo tîm cyfryngau da er mwyn trafod y gêm, ac i ddadansoddi beth sy’n digwydd yn y gemau. Felly ydi timau’r BBC ac ITV yn gwybod am beth maen nhw’n sôn, ynta’n malu awyr?

BBC

Yn arwain sylw’r BBC mae cyflwynydd Match of the Day, Gary Lineker. Mae o’n cael ei gynorthwyo gan nifer o gyn-chwaraewyr megis Rio Ferdinand, Thierry Henry, Juninho a Clarence Seedorf.

Criw sydd hefo digon o wybodaeth ynglŷn â’r gem, yn enwedig Henry a Seedorf sydd yn diddanu’r gwylwyr hefo sylwadau diddorol.

Un gwall hefo tîm y BBC ydi Ferdinand. Dydy o ddim yn edrych mor gyfforddus â’r gweddill o flaen y camera, a dydy o ddim yn cyfrannu digon i’r sgwrs y rhan fwyaf o’r amser.

Hefyd, mae yna dueddiad iddo fo a Lineker ddychwelyd i siarad am Loegr yn eitha’ aml. Dy’n nhw ddim i’w weld yn deall nad ydy pawb eisiau gwybod am sut ddaru Adam Lallana ymarfer y pnawn yna.

ITV

Er hyn, mae’n rhaid dweud fod sylwebyddion ITV yn bell tu ôl i’r BBC. Yn arwain eu sylw nhw mae cefnogwr West Brom, y dyn hefo’r llais mwya’ boring ym mhêl-droed, Adrian Chiles.

Pan gymharwch chi fo a Lineker, mae yna fyd o wahaniaeth. Un yn llawn bywyd, y llall yn swnio fel ei fod o eisiau bod adre. Dydy o ddim yn gychwyn grêt i ITV.

Mae o’n beth da felly, fod y panel yn un deallus sydd yn rhoi digon o sylw i’r gemau. Er i’r Gwyddel, Roy Keane, dynnu allan ar fyr rybudd, mae o’n llawer mwy o fwynhad i wylio’r rhaglen hebddo.

Y noson o’r blaen, cafodd ei le ei lenwi gan Fabio Cannavaro, cyn-gapten tîm yr Eidal a enillodd Gwpan y Byd yn 2006.

Er nad ydy Cannavaro yn gallu siarad Saesneg yn rhugl, mae o’n llwyddo i ddweud mwy yn y cryn eiriau mae o’n gwybod na Keane beth bynnag.

Yn ymuno â Cannavaro mae enillwr arall y Gwpan, y Ffrancwr Patrick Vieira. Ar ôl treulio naw mlynedd hefo Arsenal, a rŵan yn gweithio i Man City, mae o’n ddigon rhugl yn Saesneg i siarad yn rhydd am y gêm.

Rydych yn gallu dweud ei fod wedi treulio blynyddoedd ar frig y gêm, gan ei fod yn siarad yn ddeallus am beth sy’n digwydd.

Yn ogystal â Cannavaro a Vieira, dau arwr yn y byd pêl-droed, mae, wel, Lee Dixon ar soffa ITV. Er nad ydy Dixon erioed wedi cyrraedd lefelau’r ddau arall, mae o’n gwybod beth mae o’n son am felly’n haeddu’i le ar y panel.

Gallwn ddweud yr un peth am y gweddill yno, gan gynnwys hyfforddwr Sunderland Gus Poyet a hyfforddwr yr Alban, Gordon Strachan. Mae Ian Wright hefyd yno’n crwydro traethau Brazil, am ryw reswm.

Tro ar fyd?

Y BBC sy’n ennill yn y frwydr sylwebaeth heb os. Gan fod ITV yn mynnu defnyddio Andy Townsend, does ’na ddim safon uchel i’w guro i fod yn onest.

Ac ar y cyfan y BBC sydd hefyd hefo’r sylw gorau tuag at y Gwpan y tro yma. Ond hefo cwpl o newidiadau mi fuasai modd i ITV gipio’r frwydr hon.

Ar y funud, dim ond Chiles a Townsend sydd yn mynd ar fy nerfau i yn bersonol. Tasa ITV yn cael gwared â’r ddau ohonyn nhw dwi’n tybio y buasen nhw’n llawer mwy poblogaidd ymysg y gwylwyr.

Yn 2010, gwyliodd 15.1 miliwn o bobl ffeinal Cwpan y Byd ar y BBC, tra dim ond 3.3 miliwn wnaeth ar ITV. Mae’n ymddangos mai’r BBC yw’r ffefrynnau o hyd – ond pwy a ŵyr beth all ddigwydd hefo cwpl o newidiadau bach?