Alun Rhys Chivers
Gohebydd Golwg360, Alun Rhys Chivers sy’n troi’r cloc yn ôl i’w blentyndod i brofi’r wefr o agor sticeri Panini ar drothwy Cwpan y Byd ym Mrasil

Mae’n anodd peidio cael eich cyfareddu gan Gwpan y Byd, on’d yw e? Ro’n i’n meddwl ‘mod i wedi llwyddo i ochgramu’r holl razzmatazz a’r heip – tan i fi fynd i’r siop leol!

Ro’n i’n teimlo fel alcoholig yn ceisio osgoi’r botel fawr ddrwg wrth gerdded heibio’r rhesi o becynnau bach melyn ar y silffoedd – y pecynnau bach ro’n i’n arfer gwario fy arian poced i’w prynu. Pecynnau bach oedd yn cynnwys ‘shinies’ a wynebau rhai o arwyr fy mhlentyndod. Ddechrau USA ’94, ro’n i’n wyth oed (bron yn naw, cofiwch!) ac roedd agor y pecynnau bach llawn cyffro yn fodd i fyw.

Sôn ydw i, wrth gwrs, am y sticeri Panini ar gyfer Cwpan y Byd. Roedden nhw’n rhan o blentyndod y rhan fwya o fechgyn yr un oedran â fi. Falle byddwch chi ferched sy’n darllen hwn yn meddwl ein bod ni’r dynion yn blentynnaidd – ond i ddyn o oedran arbennig, ‘retro’ yw’r gair cywir!

Dwi’n dal i gofio – ac yn ail-fyw – y cyffro wrth dynnu’r labeli bach papur oddi ar y cefn a gosod y sticeri’n daclus yn y sgwariau, arogl y papur ar fy mysedd wrth droi’r tudalennau ar hap wrth fynd o un tîm i’r llall. Ond wedyn y siom hefyd o ddarganfod y ‘dyblars’ – pwy sy’n cofio Alain Sutter (Y Swistir), David Embe (Cameroon) ac Al Owairan (Saudi Arabia)? Mae’u hwynebau nhw wedi gadael eu marc arna i hyd heddi – fe welais i nhw drosodd a thro yr haf hwnnw! Mae’r ‘class of 94’ (y bechgyn bach sy bron yn 30 oed bellach) yn sôn mai Rooney (ych a fi!) yw’r un sy’n peri diflastod y tro hwn. Dwi’n dal i aros i gael Bony, Vorm, de Guzman a Ki Sung-Yueng, gyda llaw. A pheidiwch â sôn am y caeau – yn 94, roedd y sticeri’n dangos y cae cyfan. Dwi’n dal i aros i weld sut olwg sy ar hanner arall yr Estádio Nacional ym Mrasilia a’r Arena Amazônia ym Manaus!

Mae albym ’94 yn casglu llwch yn y llofft erbyn hyn, ond mae’r un cyfredol yn eistedd ar fy nesg. Mae’r siart y tu fewn iddo yn barod gyda fi i’w lenwi ar wal fy ystafell wely a’r beiro bach du ar y silff. Gan fod gyda fi ddau siart, es i ati i wneud bach o waith dyfalu a darogan – ond falle bod y canlyniad yn y pen draw yn anochel. Mae mýg yn aros amdana i os yw Gweriniaeth Corea yn fuddugol gan i fi eu tynnu nhw allan o het yn swîpstêc Orielodl. Ond Brasil yw’r tîm i’w curo. Heb unrhyw fath o waith ystadegau na dadansoddi dwys, dyma fel dwi’n ei gweld hi fesul grŵp:

Grŵp A: Brasil, Cameroon, Croatia, Mecsico

Dwi ddim yn rhagweld sioc fawr yn y grŵp yma. Brasil yw’r ffefrynnau am reswm da iawn – a chofiwch mai dim ond timau o Dde America sy wedi ennill Cwpan y Byd ar y cyfandir hwnnw. Bydd heno’n ddechreuad cyffrous i’r gystadleuaeth a dwi’n gweld Croatia yn rhoi prawf go dda i’r bois mewn melyn. Y ddau dîm yma dwi’n ffansio yng Ngrŵp A. Mae un llithriad yn bosib ym mhob grŵp a dwi’n gweld Cameroon yn cipio pwynt oddi ar Croatia.

Grŵp B: Awstralia, Chile, Yr Iseldiroedd, Sbaen

Unwaith eto, dim sioc yma chwaith. Mi fydd Sbaen yn anodd iawn i’w curo a dwi’n disgwyl iddyn nhw fynd yr holl ffordd i’r ffeinal. Bydd Sbaen v Yr Iseldiroedd yn un o ornestau’r gystadleuaeth a dwi’n disgwyl tipyn o goliau – Sbaen i fynd â hi o 3-2. Bydd diddordeb arbennig gyda fi yn y grŵp yma diolch i Vorm a de Guzman. Chile fydd y tîm allai roi sioc i’r Iseldiroedd felly mae’n bosib eith yr ail safle i lawr i wahaniaeth goliau. Ond Sbaen a’r Iseldiroedd i fynd drwodd.

Grŵp C: Colombia, Côte d’Ivoire, Groeg, Siapan

Mae hwn yn grŵp i’w wylio a dwi’n disgwyl iddi fod yn agos iawn. Mi fydd y crys oren yn barod gyda fi i gefnogi Bony! Dyma grŵp lle dwi’n gweld timau’n cipio pwyntiau oddi ar ei gilydd – Colombia a Groeg yn gyfartal ond Groeg i guro Côte d’Ivoire. Colombia a Siapan i fynd adre’n gynnar.

Grŵp D: Costa Rica, Yr Eidal, Lloegr, Wrwgwai

Yr Eidal, heb os, fydd yn ennill y grŵp a dwi ddim yn disgwyl (ond yn gobeithio, wir Dduw!) y byddan nhw’n rhoi crasfa i Loegr (nid ’mod i’n rhagfarnllyd o gwbl, cofiwch!). Ond dwi’n rhagweld Lloegr yn mynd drwodd o drwch blewyn. Y gêm i’w gwylio i fi yw’r Eidal v Costa Rica – gwledd o goliau a fawr o ots am yr amddiffyn.

Grŵp E: Ecwador, Ffrainc, Hondwras, Y Swistir

Er mai yn Ne America mae’r gystadleuaeth, dwi’n credu y bydd y ddau dîm o Ewrop yn rhy gryf i’r gweddill. Pwyntiau llawn i’r Swistir, felly, wrth i Ffrainc lithro ar groen banana. Honduras i fynd adre’n hollol waglaw.

Grŵp F: Yr Ariannin, Bosnia, Iran, Nigeria

Yr Ariannin a Nigeria – dau dîm a wynebodd ei gilydd yng Ngrŵp D yn ’94 – fydd yn mynd drwodd o’r grŵp yma dwi’n meddwl. Dwi’n gweld nhw’n cael gêm gyfartal, yr unig bwyntiau fyddan nhw’n eu colli yn y grŵp. Ond Yr Ariannin ar y brig ar wahaniaeth goliau – Iran i orffen heb bwyntiau, wedi’i curo gan Fosnia.

Grŵp G: Yr Almaen, Ghana, Portiwgal, Yr Unol Daleithiau

Dwi ddim yn meddwl bod lot o amheuaeth mai’r Almaen a Phortiwgal fydd yn mynd drwodd ond dwi’n disgwyl ambell i gêm agos hefyd. Yr Almaen a Phortiwgal i orffen yn gyfartal, Yr Unol Daleithiau i gipio pwynt oddi ar Yr Almaen a Ghana yn gyfartal yn erbyn Portiwgal.

Grŵp H: Algeria, Gweriniaeth Corea, Gwlad Belg, Rwsia

Dyma gyfle euraid i Wlad Belg brofi eu hunain fel tîm – yn sicr, mae’r enwau ar bapur yn ddigon i ddychryn y gwrthwynebwyr – Hazard, Kompany, Fellaini, Lukaku. Y siom yw na fydd Benteke ar gael. Yr unig bwyntiau dwi’n eu gweld nhw’n colli yw’r rheini yn erbyn Rwsia – gêm gyfartal fydd honno i fi. Dim sioc fel arall – Gwlad Belg a Rwsia i fynd drwodd.

Dyma ni’n cyrraedd y rowndiau ola’, felly. Pe bawn i’n gywir, fe fyddai llwybr sydd wedi’i benderfynu ymlaen llaw yn golygu’r gemau canlynol yn Rownd yr 16 olaf (y buddugol mewn bold):

Brasil v Yr Iseldiroedd

Côte d’Ivoire v Lloegr

Y Swistir v Nigeria

Yr Almaen v Rwsia

Sbaen v Croatia

Yr Eidal v Groeg

Yr Ariannin v Ffrainc

Gwlad Belg v Portiwgal

Y Chwarteri:

Brasil v Lloegr (hwyl fawr Lloegr!)

Y Swistir v Yr Almaen

Sbaen v Yr Eidal (Sbaen i ennill gyda chiciau o’r smotyn – mae angen un bob twrnament!)

Yr Ariannin v Gwlad Belg

Y Rownd Gyn-derfynol:

Brasil v Yr Almaen (ar ddiwedd amser ychwanegol)

Sbaen v Yr Ariannin

Y ffeinal:

Brasil v Sbaen

Mwynhewch, yfwch, byddwch lawen!