Mae'r Cymro John Hartson wedi chwarae i Celtic
Mae Celtic wedi cadarnhau mae Ronny Delia fydd rheolwr newydd y clwb.

Mi fydd y gŵr o Norwy yn olynnu Neil Lennon a adawodd Bencampwyr yr Alban bythefnos yn ôl wedi pedair mlynedd wrth y llyw.  Fe wnaeth Delia arwain Stromsgodset at eu teitl cyntaf ers 43 o flynyddoedd y tymor diwethaf ac ennillodd y clwb Gwpan Norwy yn 2010.

‘‘Byddaf yn trysori’r cyfle hwn a byddaf yn gwneud fy ngorau er mwyn y clwb a’r cefnogwyr,” meddai Delia.

Mae Prif Weithredwr Celtic Peter Lawwell yn hyderus mae Delia yw’r dyngorau ar gyfer y clwb:

‘‘Ronny oedd un o’r ymgeiswyr cyntaf i ni ei ystyried fel rheolwr, ac ar ôl trafod y cyfle gydag ef yn estynedig, roeddwn yn gwybod bod ganddo’r dalent a’r penderfyniadau i sicrhau canlyniadau cadarnhaol ar gyfer y clwb a’n cefnogwyr.

“Mae Ronny yn hoffi chwarae’n ymosodol, sef y steil sy’n gysylltiedig â Celtic.’’