Malky Mackay
Mae cyn-reolwr Abertawe, Michael Laudrup a chyn-reolwr Caerdydd, Malky Mackay wedi cael eu cysylltu â swydd rheolwr Celtic yn Yr Alban.

Daeth y swydd yn wag ar ôl i Neil Lennon benderfynu rhoi’r gorau iddi’r wythnos hon.

Ddoe, roedd adroddiadau’n cysylltu’r ddau â swydd rheolwr Southampton yn yr Uwch Gynghrair, yn dilyn penodi Mauricio Pochettino yn rheolwr Spurs.

Yr enwau eraill sydd wedi’u cysylltu â swydd Celtic yw is-hyfforddwr Gweriniaeth Iwerddon Roy Keane, cyn-reolwr Wigan Owen Coyle a chyn-ymosodwr Celtic a rheolwr presennol Falkenberg yn Sweden, Henrik Larsson.

Ond mae’n ymddangos nad oes gan Larsson a Keane ddiddordeb yn y swydd ar hyn o bryd.

Larsson fu ffefryn y bwcis ers i Neil Lennon gyhoeddi ei ymadawiad.