Cofio'r trychineb (Llun PA)
Mae Swyddfa’r Cabinet wedi cadarnhau eu bod yn cynnal “ymholiadau brys” i honiadau bod gweision sifil wedi rhoi sylwadau sarhaus ar y We am drychineb pêl-droed Hillsborough.

Yn ôl papur newydd y Liverpool Echo, roedd cyfrifiaduron yn rhai o adrannau’r Llywodraeth wedi cael eu defnyddio i newid cofnod am y trychineb ar dudalennau’r gwyddoniadur ar-lein, Wikipedia.

Roedd y rheiny’n cynnwys newid geiriau anthem clwb Lerpwl o ‘You’ll never walk alone’ i ‘You’ll never walk again’ – fe gafodd 96 o gefnogwyr y clwb eu lladd mewn gwasgfa yn stadiwm Hillsborough yn Sheffield.

Yn ôl yr honiadau, roedd y sylwadau wedi cael eu gwneud oddi ar gyfrifiaduron yn yr Adran Ddiwylliant, Cyfryngau a Chwaraeon, y Trysorlys a’r Twrnai Cyffredinol.

‘Difrifol iawn’

Mae llefarydd o Swyddfa’r Cabinet wedi diolch i’r Liverpool Echo am dynnu sylw at yr honiadau, gan ddweud eu bod yn eu trin yn ddifrifol iawn.

Fe ddywedodd un o arweinwyr Grwp Cefnogi Teuluoedd Hillsborough wrth y papur newydd nad oedd hi’n gwybod sut i ymateb.

“Dw i’n clywed rhywbeth fel yna ac mae’n fy ngwneud yn ofnadwy o drist,” meddai Margaret Aspinall. “Dw i’n falch bod rhywun wedi ffeindio hyn ond dw i wedi fy nychryn and oedden ni’n gwybod tan hyn.”

Mae cwest newydd i’r trychineb yn cael ei gynnal ar hyn o bryd.