Dave Jones, rheolwr Caerdydd
Mae rheolwr Caerdydd, Dave Jones wedi dweud bod ei dîm yn haeddu buddugoliaeth ar ôl colli 1-0 yn erbyn Crystal Palace yn Selhurst Park. 

Fe fethodd Peter Whittingham cic gosb yn ystod yr ail hanner cyn i Kagisho Dikgacoi sgorio i’r tîm cartref gyda naw munud yn weddill. 

Ond roedd Dave Jones ddim yn credu bod methiant Whittingham yn drobwynt yn y gêm. 

“Roedden ni’n haeddu’r pwyntiau llawn.  Roedd Crystal Palace yn dal ymlaen ac wedi bod yn lwcus,” meddai Dave Jones. 

 “Rwy’n credu bod eu golwr wedi gwneud tri arbediad anhygoel.  Yn sicr nid oedd ein hymdrechion ar y gôl yn wael.

 “Ni allaf gofio Crystal Palace yn gwneud dim byd yn ystod yr ail hanner- ond chwarae teg iddyn nhw am ddal ymlaen ac ennill.

 “Dw i ddim yn credu bod methu’r gic gosb yn eiliad allweddol chwaith.  Roedden ni’n dal i gael meddiant- ond ni allwch roi goliau i wrthwynebwyr yn y modd roedden ni wedi eiwneud.

 “Dyma’n union ddigwyddodd yn erbyn Ipswich.  Doedden nhw ddim wedi gwneud llawer tan iddynt sgorio.

 “Rydych chi fod amser yn wyliadwrus bod rhywbeth yn gallu digwydd- ond doedden ni ddim yn disgwyl i hyn ddigwydd.”

Mae Caerdydd wedi disgyn i’r bedwerydd safle yn y Bencampwriaeth – dau bwynt tu ôl i Abertawe yn yr ail safle a naw i ffwrdd o QPR ar y brig.