Brendan Rodgers, rheolwr Abertawe
Mae rheolwr Abertawe, Brendan Rodgers wedi dweud ei fod yn siomedig iawn gyda’r gêm gyfartal yn erbyn Watford. 

Roedd yr ymosodwr, Stephen Dobbie wedi rhoi’r Elyrch ar y blaen wedi 26 munud ac fe aeth Abertawe ymlaen i reoli gweddill yr hanner cyntaf. 

Ond roedd Watford yn llawer gwell yn yr ail hanner ac fe gafodd eu hymdrechion eu gwobrwyo gyda gôl gan Danny Graham gyda 12 munud yn weddill. 

 “Dyma’r mwyaf siomedig rwyf wedi bod ers ymuno gyda’r clwb.  Doedden ni ddim wedi gwneud digon ac fe ddylen ni fod wedi sicrhau’r pwyntiau llawn,” meddai Brendan Rodgers. 

 “Fe ddywedais wrth y chwaraewyr ar hanner amser bod angen ail gôl arnom ac amddiffyn yn fwy tyn o amgylch y cwrt cosbi.  Ond roedden ni wedi gwneud y gwrthwyneb.

 “Roedd yr amddiffyn yn wael am gôl Watford ac mae hynny’n syndod gan ein bod ni wedi bod yn gadarn trwy’r tymor.”

 Mae rheolwr yr Elyrch yn gobeithio bydd ei dîm wedi dysgu o’r profiad yma ar gyfer y deg gêm sy’n weddill o’r tymor arferol. 

 “Rwy’n gobeithio bydd hwn yn wers dda i ddysgu.  Dydyn ni ddim mor dda nad oes dim angen i ni weithio’n galed. 

 “Ry’n ni’n gwybod sut i ennill gemau ond mae’n rhaid i ni sicrhau ein bod ni’n sicrhau’r fuddugoliaeth pan mae’r cyfleoedd yno.”

 Er gwaethaf siom y rheolwr gyda’r canlyniad, mae Abertawe yn parhau i fod yn yr ail safle yn y Bencampwriaeth