Mae cyfarwyddwr clwb pêl-droed Casnewydd, Tim Harries, wedi dweud bod y clwb yn mynd ati o ddifri i ddod o hyd i reolwr newydd.

Roedd disgwyl i Harris reoli’r tîm tan ddiwedd y tymor yn dilyn ymadawiad Dean Holdsworth. Ond fe allai’r clwb benodi rheolwr newydd ymhen wythnos.

Mae gobeithion y clwb o ennill dyrchafiad mwy neu lai ar ben yn dilyn rhediad o 12 gêm heb fuddugoliaeth.

“Fe fydd yna ragor o ymdrech i ddod o hyd i reolwr parhaol,” meddai Tim Harris wrth bapur y South Wales Argus.

“Mae yna sawl enw wedi ei grybwyll heb unrhyw wirionedd y tu ôl iddyn nhw.  Roedd cefnogwr wedi gofyn i mi dros y penwythnos pam nad oedden ni yn ceisio penodi Gary Johnson. Bu’n rhaid i mi esbonio ei fod wedi derbyn swydd â Northampton.

“Ond mae swydd y rheolwr yn flaenoriaeth, ac rwy’n credu bod gennym ni dri neu bedwar ymgeisydd a fyddai’n gweddu i’r clwb.”