Mae merched Cymru wedi gorffen ar frig eu grŵp yng Nghwpan Algarve, ar ôl curo Chile 2-1.

Mae’r canlyniad yn golygu y bydd Cymru yn herio China nos Fercher er mwyn penderfynu pwy fydd yn gorffen yn seithfed yn y gystadleuaeth.

Y seithfed safle yw’r uchaf y bydd merched Cymru yn gallu ei gyrraedd yn y gystadleuaeth ar ôl cael eu gosod yn Grŵp C.

Er bod Chile wedi dechrau’r gêm yn addawol, Cymru aeth ar y blaen wrth i Jessica Fishlock sgorio wedi 24 munud.

Roedd Chile yn pwyso ar amddiffyn Cymru ar ddechrau’r ail hanner hefyd, ond fe sgoriodd Cymru gôl arall ar ôl awr pan ddaeth Jessica Fishlock o hyd i fwlch yn yr amddiffyn.

Er gwaetha’r sgôr roedd Chile yn edrych yn fwy peryglus ac fe sgoriodd Daniela Zamora er mwyn haneru mantais Cymru.

Gwthiodd Chile am gôl arall ond fe wnaeth Cymru digon i ddal ‘mlaen am y fuddugoliaeth.

Fe fydd merched Cymru yn wynebu China ddydd Mercher yn Estadio Municipal Albufeira. Fe fydd y gêm yn dechrau am 11.00 y bore.