Dave Jones, rheolwr Caerdydd
Mae rheolwr Caerdydd, Dave Jones, wedi galw ar gefnogwyr y clwb i ddangos mwy o gefnogaeth i’r chwaraewyr yn y dyfodol.

Daw ei eiriau ar ôl i rai o gefnogwyr yr Adar Glas watwar y tîm ar ôl i  Gaerdydd golli 2-0 yn erbyn Ipswich y penwythnos diwethaf.

“Fe gollwyd cyfle yn erbyn Ipswich ddydd Sadwrn diwethaf. Ond roedden y perfformiad yn un da,” meddai Dave Jones.

“Roedden ni wedi colli’r gêm oherwydd dwy ymdrech ardderchog yn ogystal â pherfformiad arbennig gan gôl-geidwad Ipswich.

“Roedden ni’n haeddu gwell yn dilyn y perfformiad ac roedd yn ganlyniad siomedig.

“Ond roedd rhai pobl yn anfodlon ar ddiwedd y gêm – ac roedd ambell un hyd yn oed yn bwio ar hanner amser pan oedd y sgôr yn 0-0.

“Rwy’n credu bod hynny’n dangos nerfau. Ond sgil effaith hynny ydi gwneud y chwaraewyr yn fwy nerfus.

“Doedd y chwaraewyr ddim yn deall pam oedd y cefnogwyr yn bwio. Fe fydden ni’n gallu deall pe bai’r tîm wedi chwarae’n wael.”

Crystal Palace

Fe fydd cyfle gan Gaerdydd i daro nôl yn erbyn Crystal Palace heno, ond mae Dave Jones wedi rhybuddio’r chwaraewyr i beidio gorffwys ar eu rhwyfau.

Er bod Crystal Palace yn agos i waelod y tabl, mae rheolwr Caerdydd yn credu y galle’n nhw fod yn dîm peryglus.

“Mae’r clybiau sy’n agos at waelod y tabl yr un mor beryglus ag unrhyw un arall,” meddai.

“Mae’n braf bod y Bencampwriaeth mor agos eleni ond mae hynny’n dangos nad yw’n bosib cymryd unrhyw beth yn ganiataol.

“Mae pob tîm yn ymladd am rywbeth – does dim gwahaniaeth pwy ydych chi’n ei chwarae.”