A fydd Bale ar gael yn gyson i Gymru?
Iolo Cheung sy’n asesu gwrthwynebwyr Cymru yn eu grŵp rhagbrofol Ewro 2016…

Brynhawn dydd Sul diwetha’, roedd llawer ohonom ni ar bigau’r drain wrth aros i weld pwy fyddai yng ngrŵp Cymru ar gyfer rowndiau rhagbrofol Ewro 2016.

Gadwch i ni fod yn glir i ddechrau – fe allai’r grŵp fod wedi troi allan yn llawer gwaeth nag y gwnaeth o.

Iawn, doedd neb yn rhy hapus fod enw Gwlad Belg wedi dod allan o’r het (neu’r fowlen blastig, fel sydd ganddyn nhw’r dyddia’ yma), heblaw am y rheiny sydd yn ffansi trip bach i Frwsel eto.

Ond fe lwyddodd Cymru i osgoi lot o dimau mawr y potiau eraill, ac o gofio bod 24 tîm yn cyrraedd y twrnament terfynol yn Ffrainc mewn dwy flynedd yn hytrach na’r 16 sydd wedi bod tan rŵan, dyma’n cyfle gora’ ni ers sbel.

Bosnia-Hercegovina

Os cofiwch chi, fe gollodd Cymru 2-0 mewn gêm gyfeillgar i Bosnia llai na dwy flynedd yn ôl ym Mharc y Scarlets.

A doedd tîm Cymru’r diwrnod hwnnw ddim yn un gwan chwaith – heblaw am Myhill, Crofts a Blake, yr un chwaraewyr fyddai’n cael eu dewis mwy na thebyg petai rhaid i Coleman ddewis ei dîm gora’ rŵan.

Mae gan Bosnia chwaraewyr o safon dda, gan gynnwys golwr Stoke Asmir Begovic, y capten Emir Spahic o Bayer Leverkusen, chwaraewr canol cae Roma Miralem Pjanic, a’r ymosodwyr Edin Dzeko a Vedad Ibisevic.

Maen nhw hefyd wedi cyrraedd eu Cwpan y Byd cyntaf eleni, ar ôl gorffen ar frig grŵp oedd yn cynnwys Groeg a Slofacia.

Ond a bod yn onest, nhw oedd un o dimau gwanaf Pot 1, felly dylai Cymru fod yn anelu i drio cael canlyniad o ryw fath adra yn eu herbyn nhw o leia’.

Seren: Edin Dzeko

Gwlad Belg

Rydan ni’n gwbod pa mor dda ydi Gwlad Belg ar ôl iddyn nhw ennill ein grŵp ni tro dwytha.

Efo sêr fatha Vincent Kompany, Axel Witsel, Marouane Fellaini, Eden Hazard a Romelu Lukaku nhw heb amheuaeth oedd tîm gorau pot 2.

Wedi deud hynny, fe roddon ni gêm dda iddyn nhw adra tro dwytha cyn i Collins gael cerdyn coch, a rhywsut fe lwyddon ni i gael gêm gyfartal efo’n ail dîm ni allan ym Mrwsel.

Felly peidio disgwyl pwyntiau o’r ddwy gêm yma ddudwn ni – rhain wnaiff ennill y grŵp – ond mi wneith hi helpu yn sicr os lwyddwn ni i fachu pwynt yn rhywle!

Seren: Eden Hazard

Israel

Hwn oedd y dewis allweddol, gyda phwy bynnag sydd yn gorffen yn drydydd yn y grŵp yn saff o fod o leiaf yn y gemau ail gyfle.

Felly roedd cael tîm gymharol wan o bot 3 yn hollbwysig, ac yn ffodus fe lwyddodd Cymru i osgoi timau fel Twrci a Serbia, a roddodd dwy grasfa i ni yn ein grŵp diwethaf.

Dydi Israel ddim yn dîm ffôl – fe lwyddon nhw i gael dwy gêm gyfartal yn erbyn Portiwgal yn eu hymgyrch Cwpan y Byd diwethaf pan orffennon nhw’n drydydd yn eu grŵp.

Ond fe gawson nhw hefyd dwy gêm gyfartal yn erbyn Azerbaijan ac un yn erbyn Gogledd Iwerddon hefyd, gan ddim ond llwyddo i ennill yn erbyn Lwcsembwrg ddwywaith a’r Gwyddelod unwaith.

Mae’r rhan fwyaf o’u chwaraewyr yn chwarae yng nghynghrair Israel, gyda rhai o’u prif chwaraewyr yn cynnwys Dudu Aouate, Tal Ben Haim, Yossi Benayoun, Eden Ben Basat ac Itay Shechter – ia, y flop ‘na odd yn Abertawe.

Felly tîm anodd eu curo ella, ond tîm yn sicr y dylai Cymru fod yn anelu i guro adra, a chael o leiaf gêm gyfartal yn Israel.

Seren: Yossi Benayoun

Cyprus

Fe orffennodd Cyprus ar waelod eu grŵp yn eu hymgyrch diwethaf, gan ennill dim ond un gêm allan o 10 – gartref yn erbyn Gwlad yr Ia.

Ond fe lwyddon nhw i gael gêm gyfartal 0-0 yn erbyn y tîm ddaeth ar frig y grŵp, Y Swistir, ac fe guron nhw Cymru 3-1 y tro dwytha i’r ddau dîm gwrdd nôl yn 2007.

Mae’r rhan fwyaf o’u chwaraewyr nhw’n chwarae i glybiau yng Cyprus, gan gynnwys eu capten Constantinos Charalambides.

Fe wnaethon nhw hefyd fethu a sgorio yn chwe gêm olaf eu grŵp, felly does ganddyn nhw fawr o fygythiad ymosodol.

Felly dylai Cymru gael chwe phwynt o’r ddwy gêm yma – a dwi yn un yn edrych ymlaen at gael mynd ar drip awê i’r haul i weld un o’r gemau yma ym mis Medi 2015!

Seren: Constantinos Charalambides

Andorra

Gwlad sydd â phoblogaeth (85,000) llai na Gwynedd, ac yn 198fed yn y byd yn rhestr detholion FIFA.

Dim ond un gêm gystadleuol maen nhw erioed wedi ennill, 1-0 yn erbyn Macedonia nôl yn 2006. Fe gollon nhw pob gêm yn eu hymgyrch ddiwethaf a dydyn nhw heb sgorio gôl gystadleuol ers 2010.

Mae’r rhan fwyaf o’u chwaraewyr yn amaturiaid, ac yn chwarae yng nghynghrair Andorra.

Yr amddiffynnwr Ildefons Lima ‘di’r unig chwaraewr sydd wedi sgorio mwy na pedair gôl iddyn nhw yn eu hanes – mae ganddo saith, ac mae’n 34 oed bellach.

Felly os nad ydi Cymru’n eu curo nhw’n gyfforddus yn y ddwy gêm mi fydd ‘na gwestiynau mawr yn codi.

Seren: Oscar Sonejee

… a Chymru?

Mae yna’n dal nifer o gwestiynau wrth i Gymru baratoi ar gyfer yr ymgyrch nesa’ yma, a gobeithio bod gan Chris Coleman ateb i’r rheiny dros y misoedd nesaf.

Ai Wayne Hennessey neu Boaz Myhill fydd yn cael y crys rhif un? Ydi James Collins ddigon dibynadwy i bartneru Ashley Williams yn y cefn?

Sut allwn ni ffitio Ben Davies a Neil Taylor i mewn i’r un tîm? Ai Robson-Kanu neu Joniesta ddylai gymryd lle Craig Bellamy ar yr asgell?

Faint o rôl fydd gan chwaraewyr fel Emyr Huws a Jack Collison yng nghanol cae? Ai Sam Vokes ydi’n John Hartson newydd ni?

Ac yn bwysicach oll, allwn ni sicrhau y bydd Bale, Ramsey, ac Allen ar gael yn ddigon rheolaidd i ni?

Digon i bendroni drosto, ond o edrych ar y grŵp yma ella na chawn ni gyfle gwell na hwn i gyrraedd ffeinals twrnament mawr. Mae’n bryd breuddwydio.

Safle Cymru yn y grŵp: 3ydd, a churo yn y gemau ail gyfle

Er mwyn dweud wrth Iolo pa mor hurt o optimistaidd y mae’n bod, gallwch drydar ato ar @iolocheung.